Carcharu gang am gynllwynio i herwgipio plentyn ym Môn

North Wales Live 30/09/2021
Llys Caernarfon

Mae aelodau gang oedd wedi cynllwynio i gipio plentyn o'i ofalwr maeth ar Ynys Môn wedi eu carcharu am gyfanswm o 63 o flynyddoedd.

Fe geisiodd arweinwyr y gang, Anke Hill, 51, a Wilfred Wong, 56, gipio'r plentyn wrth iddo gyrraedd adref o'r ysgol ar 4 Tachwedd, 2020.

Roedd dau aelod arall o'r gang, Janet ag Edward Stevenson, wedi hurio car er mwyn cludo'r plentyn allan o Gymru.

Gwaith dau arall yn y drosedd - Jane Going-Hill a Kristine Petley - oedd cadw llygad ar y pontydd rhwng Môn a'r tir mawr er mwyn gwylio am unrhyw weithgaredd gan yr heddlu yn dilyn cipio'r plentyn.

Cafodd y chwech eu carcharu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.