Penodi Prifardd i warchod enwau Cymraeg Gwynedd
Mae Meirion MacIntyre Huws wedi ei benodi fel y person sy’n gyfrifol am warchod enwau lleoedd cynhenid yng Ngwynedd.
Bydd y swydd newydd yn golygu cydlynu Prosiect Gwarchod Enwau Cynhenid Cyngor Gwynedd.
Mae’r cyngor eisoes wedi rhybuddio fod ganddynt “bryder fod enwau llefydd cynhenid yn diflannu o dirlun” y sir.
Caiff Meirion MacIntyre Huws, neu Mei Mac, ei adnabod fel Prifardd ac yn 1993 fe enillodd y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
‘Colli enwau yn creu twll’
Dechreuodd Mei Mac ei swydd ym mis Medi ac mae’r gwaith yn cynnwys “sefydlu gweithdrefnau i atal pobl rhag newid enwau tai” yn y sir.
“Mae hwn yn faes sydd wedi bod o ddiddordeb i mi ers blynyddoedd lawer ac sy'n agos at fy nghalon. Felly dwi'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o warchod elfen hynod o bwysig o'n hanes a'n hiaith,” meddai.
“Dwi'n gweld hanes Gwynedd fel hen dapestri mawr lliwgar, yn frith o fân luniau a digwyddiadau sy'n adrodd hanesion y sir drwy lun a lliw. Un rhan o'r tapestri gwerthfawr hwnnw yw hanes enwau llefydd. Mae colli enw Cymraeg ar dŷ er enghraifft yn creu twll yn y tapestri ac mae tyllau'n ymddangos fesul dydd.”
Mae diflaniad rhai enwau Cymreig wedi bod yn bwnc llosg ers tro, gyda 18,000 yn arwyddo deiseb yn galw am ddeddfu i atal newid enwau Cymraeg y llynedd.
‘Pryder fod enwau yn diflannu’
Yn eu hadolygiad fwyaf diweddar o’u Cynllun, dywedodd Cyngor Gwynedd fod ganddynt “bryder fod enwau llefydd cynhenid Cymreig yn diflannu o dirlun Gwynedd.”
Ychwanegodd fod hyn oherwydd y “diffyg defnydd o’r enwau Cymraeg a’r cynnydd mewn ail enwi llefydd yn Saesneg”.
Cafodd y mater o enwau llefydd cynhenid Cymreig ei ychwanegu i flaenoriaethau'r Cyngor yn 2021 gan fod yr “argyfwng Covid-19 wedi amlygu’r problemau fwyfwy”.
Dywedodd Mei Mac: 'Dwi'n rhagweld y bydd dwy elfen i'r swydd, yn gyntaf y gwaith o gael trefn mwy o eglurder ar y polisïau a'r ddeddfwriaeth sydd yn bodoli'n barod i daclo'r broblem, rhyw fath o waith 'cefn y siop' fel 'tae.
“Yna mi fydd gwaith 'ffenast ffrynt y siop' sef hyrwyddo'r Prosiect Gwarchod Enwau Lleoedd a chreu gweithgareddau yn y gymuned, ar lawr gwlad, i ddenu diddordeb yn y maes. Y gobaith, yn sgil hynny fydd denu mwy o barch at yr holl hanes a diwylliant sydd ynghlwm ag enwau tai a llefydd.
Bydd y swydd newydd yn gweithio ar y prosiect penodol yma yn ogystal â chyflawni dyletswyddau eraill sy’n hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.
Ychwanegodd: "Mae hanes enwau lleoedd yn agoriad llygaid ar sut mae ein hiaith wedi datblygu dros y canrifoedd. Maen nhw'n rhoi cipolwg i ni ar sut ddaru'r hen Gymry blethu hanes lleol â nodweddion o'r tirlun o'u cwmpas i greu enwau gwirioneddol hyfryd. Mae ambell enw fel Pen Llithrig y Wrach yn farddoniaeth ynddo'i hun!'
"Rydan ni i gyd yn byw ac yn bod yng nghanol y cyfoeth 'ma. Bob un tro awn ni o un lle i'r llall o fewn y sir mi fyddan ni'n mynd heibio i berlau a thrysorau sy'n llenwi'r hen dapestri mawr y soniais amdano. Heb yr enwau hynny mi fydd y tapestri'n troi'n dyllau i gyd ac yn syrthio oddi ar y wal am byth. Dwi'n edrych ymlaen at yr her o atal hynny rhag digwydd."