Newyddion S4C

Galw ar Gomisiynydd Heddlu'r Met i ymddiswyddo wedi defryd Wayne Couzens

Sky News 30/09/2021
Cressida Dick

Mae na alwadau ar Gomisiynydd Heddlu'r Met i ymddiswyddo yn dilyn defryd gydol-oes i lofrydd Sarah Everard yn llys yr Old Bailey ddydd Iau.

Fe glywodd y llys bod Wayne Couzens, 48, wedi defnyddio ei gerdyn gwarant Heddlu’r Met a chyffion dwylo i gipio’r fenyw 33 oed yn ne Llundain fis Mawrth, cyn ei threisio a'i llofruddio.

Fe gafodd ei chorff ei ddarganfod mewn coetir yng Nghaint wythnos yn ddiweddarach.

Mae'r aelod seneddol Harriet Harman wedi gofyn i'r Ysgrifenydd Cartref Priti Patel gymryd camau brys er mwyn "ail adeiladu hyder menywod yn yr heddlu, sydd wedi ei chwalu'n deilchion."

Ychwanegodd fod angen i'r Comisiynydd, Cressida Dick i ymddiswyddo er mwyn galluogi'r newidiadau hyn i gael eu gweithredu."

Un arall sydd wedi galw ar Heddlu'r Met i dderbyn fod problem o ymddiriedaeth yn y llu gan y cyhoedd yw cyn brif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yng ngogledd orllewin Lloegr, Nazir Afzal.

Dywedodd Mr Afzal mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ei fod yn gobeithio y byddai achos llodfruddiaeth Sarah Everard yn arwain at well plismona.

Yn ystod yr ymchwiliad i farwolaeth Ms Everard daeth i'r amlwg bod ei llofrudd Wayne Couzens wedi cael ei gysylltu â digwyddiad o ymddygiad anweddus honedig mor bell ​​​yn ôl â 2015.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi lansio ymchwiliad i fethiannau honedig gan Heddlu Caint i ymchwilio i'r digwyddiad ar y pryd.

Llun: Katie Chan

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.