Newyddion S4C

Ysgol Abersoch i gau yn dilyn penderfyniad gan Gabinet Cyngor Gwynedd

28/09/2021
Ysgol Abersoch

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu y bydd Ysgol Abersoch yn cau ei drysau am y tro olaf ar ddiwedd y flwyddyn.

Fe wnaeth y cabinet gefnogi argymhelliad i gyhoeddi rhybudd statudol i gau'r ysgol ym Mhen Llŷn ym mis Mehefin, ac fe gymerwyd penderfyniad terfynol i gau'r ysgol mewn cyfarfod o'r cabinet ddydd Mawrth.

Yn dilyn penderfyniad y cabinet, bydd saith disgybl llawn amser yr ysgol a’r ddau ddisgybl derbyn yn cael trafnidiaeth i Ysgol Sarn Bach o fis Ionawr ymlaen.

Mae'r penderfyniad wedi ennyn ymateb chwyrn gan bobl yr ardal leol.

Dywedodd Margot Jones, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol: "Da ni ddim yn derbyn y penderfyniad heddiw sy' di cael ei neud gan aelodau o'r cabinet sy ddim yn byw yn ein ardal ni, sy' ddim rili yn dallt y wahaniaeth rhwng cymuned Abersoch a cymuned Sarn Bach ac deud y gwir be di'r wir ystyr y gair cymuned.

"Dydyn nhw' ddim yn dallt."

Ychwanegodd is-gadeirydd y Llywodraethwyr, Eifiona Wood: Ma'n golygu gymaint i'r pentref, ma'r plant ynghanol y pentref, ma'r ysgol yng nghanol y pentref, 'da chi'n gweld ma' pawb yn mynd heibio'r ysgol ma' nhw'n clywed y plant yn chwarae, yn siarad, yn canu."

"Colled mawr," ychwanegodd.

Yn un o bentrefi mwyaf poblogaidd Gwynedd ar gyfer ail gartrefi, roedd pryderon yn lleol am yr effaith y gallai cau’r ysgol gael ar y gymuned a’r iaith Gymraeg yn yr ardal.

Dywedodd Ffred Ffransis, ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: "Wrth gau yr ysgol mae Gwynedd yn tanseilio eu polisïau tai ac iaith eu hunain trwy gefnu ar gymuned Abersoch, ac yn anfon arwydd clir at gymunedau eraill sydd dan bwysau nad yw'r Cyngor yn barod i sefyll i fyny drostyn nhw."

'Ddim yn benderfyniad hawdd' 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Nid peth hawdd ydi penderfynu ar ddyfodol unrhyw ysgol ac mae’r Cyngor yn deall fod hyn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb sydd ynghlwm ag Ysgol Abersoch.

“Mae hi yn destun tristwch pan mae rhaid ystyried dyfodol unrhyw ysgol. Serch hynny, mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau ei fod yn cynnig yr addysg a phrofiadau ynghyd a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant.

“Ar ôl ystyried yr holl wrthwynebiadau a dderbyniwyd fel rhan o’r cyfnod gwrthwynebu statudol yn fanwl, penderfynwyd y dylai Ysgol Abersoch gau ar ddiwedd 2021.

“Mae awydd clir wedi bod ym mhentref Abersoch i weld parhad yr ysgol, a bydd pob ymdrech i sicrhau fod cyswllt clir yn parhau rhwng cymuned Abersoch ac Ysgol Sarn Bach lle mae nifer o ddisgyblion Abersoch eisoes yn mynychu o Flwyddyn 4 ymlaen.”

Ychwanegodd y Gymdeithas eu bod nhw yn bryderus am ddyfodol yr adeilad sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel Cylch Meithrin na Cylch Ti a Fi, gan ddweud bod Cyngor Gynwedd wedi “bradychu'r gymuned a thanseilio'r gobeithion o ddefnyddio'r ysgol fel sail i adfywiad y Gymraeg yn lleol.

“Trwy gydol y broses, mae'r Cyngor wedi anwybyddu lleisiau'r gymuned a gwrthod ystyried opsiynau amgen byddai wedi galluogi'r ysgol i aros ar agor fel rhan o ffederasiwn. Roedd asesiadau'r Cyngor ei hun yn cydnabod byddai cau'r ysgol yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg a'r gymuned, ond eto maen nhw wedi eu hanwybyddu."

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod nhw mewn trafodaethau ynglŷn â beth fydd yn digwydd i’r adeilad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.