Cyn blismon wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at gydweithwyr am chwe blynedd
Fe wnaeth cyn blismon gyda Heddlu’r De ymddwyn yn amhriodol tuag at gydweithwyr benywaith eraill dros gyfnod o chwe blynedd.
Clywodd gwrandawiad preifat gan yr heddlu fod Dale Baker wedi torri’r safonau ymddygiad proffesiynol oedd yn ddisgwyliedig ohono.
Roedd y cyn arolygydd wedi ymddwyn yn rhywiol amhriodol tuag at fenywod eraill roedd yn gweithio gydag ef, yn ogystal ag ymddwyn yn anonest tuag at swyddog arall.
Canfu’r panel y byddai Baker wedi cael ei ddiswyddo pe bai wedi aros yn heddwas.
Ni chymerodd y panel unrhyw gamau disgyblu yn erbyn yr achos o ymddwyn yn anonest.
Bydd y llu yn cyfeirio Baker i’r Coleg Plismona er mwyn ei roi ar y rhestr waharddedig.