Dim angen prawf ar deithwyr rhyngwladol o Gymru sydd wedi eu brechu'n llawn
Ni fydd angen i deithwyr o Gymru sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn erbyn Covid-19 gael prawf cyn teithio dramor, dan gynlluniau newydd y llywodraeth.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn uno'r rhestrau teithio gwyrdd ac oren.
Bydd y newidiadau yn dod i rym erbyn 4 Hydref ac fe fydd hyn yn unol â system Llywodraeth y DU.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad eto am ganiatau i deithwyr i ddefnyddio prawf llif unffordd ar ôl dychwelyd adref, yn hytrach na phrawf PCR fel sy'n cael ei ganiatau yn Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod nhw'n gwrthwynebu'r newid yma ac yn galw ar Lywodraeth San Steffan i wyrdroi'r penderfyniad.
'Penderfyniad sy'n peri pryder'
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y llywodraeth wedi "galw'n gyson am ddull gofalus o ymdrin â theithio rhyngwladol er mwyn atal ailgyflwyno coronafeirws i’r DU".
"Mae’r penderfyniad i beidio â’i gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n dychwelyd i wneud profion PCR ar ddiwrnod dau yn peri pryder," meddai.
"Mae’r prawf hwn, a dadansoddi dilyniant genom yr holl ganlyniadau positif, yn rhan allweddol o’n gwyliadwriaeth ar gyfer coronafeirws, gan hefyd ddiogelu ein ffiniau rhag y feirws."
Ychwanegodd y dylai Llywodraeth y DU ailgyflwyno profion ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan er mwyn gwarchod iechyd y cyhoedd.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud fod polisïau’r llywodraeth ar deithio rhyngwladol yn ddryslyd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd cysgodol Russell George AS: "Yn anffodus i bobl yng Nghymru, dyw Llafur ddim yn gwybod os ydyn nhw'n mynd neu'n dod o ran y rhestrau teithio. Dyw hi ddim yn bosib i Lywodraeth Cymru fyw yn barhaol mewn ofn o amrywiolion eraill. Unwaith eto, fe fyddai rhesymeg ormesol sydd wrth gefn i benderfyniad y Gweinidog yn gweld y ffiniau ar gau am gyfnod penagored."