Gorfod gwisgo mygydau mewn addoldai yn “annheg”

Newyddion S4C 26/09/2021

Gorfod gwisgo mygydau mewn addoldai yn “annheg”

Er bod cynulleidfaoedd wedi cael dychwelyd i addoldai mae dal rhaid gwisgo mwgwd yn ystod gwasanaethau, ond yn ôl rhai addolwyr mae'n amharu ar eu profiad.

Yn ôl gweinidogion capel 21st Century yn Llanelli mae’r sefyllfa yn “annheg”.

"Erbyn hyn mae nid yn unig yn teimlo’n anghyfleus, ond mae'n teimlo'n anghyfiawn,” meddai Heulwen Davies wrth raglen Newyddion S4C.

“Dyw e ddim yn deg bo raid i ni, pan i ni'n gwybod mewn clybiau nos chi'n gallu mynd mas, yfed, canu, dawnsio, pwy a ŵyr beth arall, a sdim rhaid gwisgo un.

“Ma’ dal yn drefnus, ma' dal system un ffordd a diheintydd 'ma. Ond eto ma' dal raid i ni yn gyfreithlon wisgo mwgwd sydd jyst yn teimlo'n annheg.”

“Ma' rai pobl di dod nôl a ma' nhw'n falch bo' ni jyst nôl, ond ma' rai pobl yn cadw bant achos ma' nhw ddim yn dod mlan 'da'r mwgwd.

“Ma' nhw'n colli mas nawr ar fod gyda'n gilydd fel teulu yn yr un man, ac mae'n drist rili bo nhw ddim nôl gyda ni eto.”

Image
S4C
Capel 21st Century yn Llanelli.

 ‘Anghyfforddus’

Dywedodd y Gweinidog Steffan Jones: “Ma' nhw'n gweud bo' chi'n cael canu, ond ma' canu gyda masgs arno yn rili galed ac yn anghyfforddus.” 

“Ma' canu yn rhan o addoli ni fel Cristnogion, ac mae'n dda i bobl, mae'n dda i'r gymuned, mae'n dda i iechyd pobl a ni moyn gweld newid fel 'na.”

Yn ôl Emma Curry Pound sy’n aelod o’r capel mae’r canllawiau yn ddryslyd.

“Yn yr adeilad hwn ma' rhaid i ni wisgo masgiau yn y prif adeilad ac unwaith ma' pobl yn mynd mas i'r caffi yn y cefn ma' nhw ddim yn gorfod gwisgo nhw, a ma' fe'n drysu pobl ychydig bo' nhw ddim cweit yn siŵr ble ma' nhw'n gorfod gwisgo masg a ble ma' nhw ddim yn gorfod gwisgo masg, sy'n gallu amharu ar brofiad pobl yn yr adeilad.

“Ma' bobl moyn teimlo eithaf rhydd yn ystod amser o addoli a bod y masg yn gallu cyfyngu hynny. Bo pobl yn teimlo'n rhwystredig gyda'r masgiau mlan.”

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gweithio'n agos gydag arweinwyr ffydd yn ystod y pandemig, a bod gorchuddion wyneb yn cynorthwyo yn y frwydr yn erbyn lledaeniad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.