30 mlynedd ers terfysg Trelai: “mae llawer o’r problemau dal yn bodoli”

26/09/2021

30 mlynedd ers terfysg Trelai: “mae llawer o’r problemau dal yn bodoli”

Yn fachgen o Drelai, Jason Mohammad sydd wedi bod yn ailymweld â’i bentref genedigol 30 mlynedd ar ôl terfysgoedd yn y gymuned.

Ym mis Medi 1991, cafodd 20 o bobl eu carcharu ar ôl terfysgoedd wnaeth bara bron i wythnos.

Cafodd aelodau o’r heddlu eu hanafu gan gerrig, bomiau petrol ac ar un pwynt, fe yrrodd gar i mewn i’r llu heddlu.

Mewn rhaglen a fydd yn cael ei darlledu ar S4C Nos Sul 26 Medi, dywedodd Jason Mohammad bod “llawer o’r problemau yn dal yn bodoli heddiw.”

Dywedodd: “Dwi'n cofio bod yn rili ymwybodol o'r ffaith dyw e ddim yn mynd i stopio ar ôl yr ail noson, achos odd yr heddlu yn dod mewn, mwy o heddlu, tro cynta, roedd heddlu terfysgoedd wedi eu ddefnyddio ar strydoedd Cymru.

“So os ti'n 17, a mae'r heddlu yn stopio ti, ti'n gwybod, fi ddim yn gallu anghofio 'na.

“Ma' Liam, y boi sy'n rhedeg y rygbi a phethau, ma fe'n gweud, weithie Jason, wi'n teimlo bod y terfysgoedd yn dechrau unwaith eto. Da ni un noson i ffwrdd o rywbeth fel hyn yn digwydd unwaith eto.

“Ma' hwn yn, t'mod, yn torri fy nghalon.”

Image
S4C

Bu’n siarad ag athrawes sy’n dysgu yn Ysgol Cardiff West Community High School.

Dywedodd Nia Meredith: “Yn ystod y cyfnod clo pan oedd lot o ysgolion yn poeni os oedd wifi ar gael i’r plant, o’n i’n poeni os o’n nhw’n mynd i gael pryd o fwyd twym. O’n i’n gorfod poeni os o’n nhw’n mynd i gael gwres canolog. 

"Ma’ dros 90% o’r plant yn dod o ardaloedd difreintiedig, ma lot o nhw yn gweld yr ysgol fel cysegr, fel constant iddyn nhw.

“Ma nhw’n gweld lot o bethe gytre. Fi’n fwy nag athrawes Gymraeg, fi’n fam, fi’n dad, gofalwr. Rhywun sy’n fodlon rhoi cwtsh pam ma isie’ fe arnyn nhw.”

Dywedodd  Jason ei fod yn gobeithio y bydd y rhaglen yn ennyn ymateb gan y Llywodraeth.

“Gobeithio, reit ar diwedd y rhaglen, 10 o'r gloch nos Sul, bydd y llywodraeth, bydd y Senedd, pobl fel Eluned Morgan, efallai yn gallu neud rhywbeth i bobl Trelai.”

Ychwanegodd Jason bod y ail-ymweld â’i filltir sgwar wedi bod yn brofiad emosiynol.

“Pan fi'n dod nôl a gweld pobl sy'n byw yn ardal tlawd iawn dwi yn teimlo'n grac. Ond, odd e'n wych i neud rhaglen fel hyn, a hefyd odd yn prosiect passion i fod yn onest, achos ti'n gwybod dwi'n foi o Drelai, dwi dal yn boi o Drelai.”

Bydd ‘Drych: Jason Mohammad – Trelai, Y Terfysg A Fi’ yn cael ei darlledu ar S4C am 9yh nos Sul 26 Medi.

Lluniau: S4C

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.