Sir Benfro: Chwe arf wedi eu meddiannu mewn ysgolion ers mis Medi

Disgyblion ysgol

Mae ysgolion yn Sir Benfro wedi rhoi gwybod i’r cyngor am chwe digwyddiad yn ymwneud ag arfau ers dechrau’r flwyddyn ysgol ym mis Medi.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi adolygu ei ganllawiau ar arfau mewn ysgolion, yn ogystal â'i weithdrefnau ar gyfer rhoi ysgolion dan glo mewn argyfwng, ar ôl digwyddiadau difrifol yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd y canllawiau eu trafod yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu'r cyngor ddydd Iau, 26 Tachwedd.

Yn ôl adroddiad i’r pwyllgor, roedd rhai o’r achosion yn ymwneud â mynd ag arf i’r ysgol yn fwriadol. Mewn achosion eraill, roedd gan unigolyn arf yn ei feddiant ar ddamwain.

Ond pwysleisiodd y cyngor fod y system gofnodi newydd yn ei dyddiau cynnar ac y dylid trin y data yn ofalus.

"Er bod digwyddiadau sy'n ymwneud ag arfau mewn ysgolion yn parhau i fod yn anghyffredin, mae'r risgiau posib i ddisgyblion, staff a chymuned ehangach yr ysgol yn sylweddol," meddai'r adroddiad.

Cryfhau mesurau diogelwch

Fe gymerodd Cyngor Sir Penfro gamau i gryfhau ei fesurau diogelwch ar ôl y digwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill 2024 a’r ymosodiad ar athrawes yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ym mis Chwefror 2026.

Yn hytrach nag aros am ganllawiau cenedlaethol pellach, fe addasodd y cyngor bolisi roedd Cyngor Caerdydd eisoes wedi ei ddatblygu.

Ym mis Medi y llynedd fe gyflwynodd Cyngor Caerdydd ei ganllawiau ar arfau mewn ysgolion a lleoliadau addysg eraill. Rhwng mis Medi 2025 a mis Mawrth 2026, cafodd 12 arf eu canfod mewn ysgolion yng Nghaerdydd.

Cafodd y trefniadau newydd eu cyflwyno i ysgolion Sir Benfro ym mis Medi 2026.

Fel rhan o'r trefniadau hynny, mae ysgolion yn gallu defnyddio ffurflen ar-lein i roi gwybod i dimau diogelu a chyfiawnder ieuenctid am ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag arfau.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod angen hyfforddiant parhaus ar staff, gan gynnwys sut i ddefnyddio synwyryddion metel llaw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau ychwanegol i Gyngor Caerdydd er mwyn datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer ysgolion ledled Cymru.

Bydd Cyngor Sir Penfro yn adolygu ei drefniadau pan fydd y gwaith hwnnw wedi dod i ben. 

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Rhys Jordan, fod y mater yn dod yn fwyfwy pwysig, gan bwysleisio bod pob digwyddiad yn wahanol.

Rhoi ysgolion dan glo

Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi bod yn cryfhau ei weithdrefnau ar gyfer rhoi ysgolion dan glo mewn argyfwng ers cyflwyno polisi yn 2023.

Cafodd y polisi ei adolygu ym mis Mehefin 2024 ar ôl y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, cyn cael ei ddiweddaru eto ym mis Tachwedd 2025.

Yn ôl y cyngor, gweithiodd y trefniadau’n dda pan gafodd athrawes ei thrywanu yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ym mis Chwefror eleni.

Cafodd yr ysgol ei rhoi dan glo, gan helpu staff i reoli'r digwyddiad yn ddiogel wrth i'r gwasanaethau brys ymateb.

Mae'n ofynnol i bob ysgol yn y sir gynnal ymarferion rheolaidd i sicrhau bod staff a disgyblion yn barod i ymateb i ddigwyddiadau o'r fath.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gydlynu ymarfer mewn ysgol gynradd leol i weld sut y byddai’r ysgol yn ymateb pe bai rhywun yn gweld ci peryglus yn yr ardal.

Yn ystod yr ymarfer, fe wnaeth y staff fynd â’r disgyblion i mewn i adeilad yr ysgol, gwirio’r cofrestrau presenoldeb a chadw mewn cysylltiad â rhieni.

Mae’r cyngor wedi rhannu’r gwersi o’r ymarfer â phob pennaeth yn y sir. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen am ddull arall o gysylltu os yw’r signal ffôn symudol yn wael, a threfniadau gwell i sicrhau bod staff yn gwybod ble mae ymwelwyr a chontractwyr pan fydd yr ysgol dan glo. 

Dywedodd cyfarwyddwr addysg y cyngor, Steven Richards-Downes, fod y term Saesneg ‘lockdown’ yn tueddu i godi ofn ar bobl, ond bod sawl rheswm dros roi ysgol dan glo.

Gallai fod ci yn rhydd ar dir yr ysgol, rhywun yn ceisio mynd i mewn i’r adeilad heb ganiatâd, neu angen i’r ambiwlans awyr lanio ar dir yr ysgol.

Dywedodd y cyngor y byddai'n parhau i adolygu ei bolisïau er mwyn ymateb i risgiau newydd a sicrhau diogelwch disgyblion a staff, 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.