Dedfrydu disgybl am drywanu athrawes gyda chyllell mewn ysgol yn Sir Benfro
Mae disgybl ysgol 16 oed a wnaeth drywanu athrawes mewn ysgol yn Sir Benfro wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Fe wnaeth y disgybl, a oedd yn 15 oed adeg yr ymosodiad, fynd i ystafell ddosbarth yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror lle’r oedd yr athrawes Vicki Williams yn dysgu, gan ofyn iddi wirio ei waith cartref.
Yna, tynnodd gyllell gegin o’i fag a thrywanu’r athrawes gan anafu ei phen.
Fe ddioddefodd yr athrawes anafiadau i’w dwylo hefyd wrth iddi geisio gafael yn y gyllell i’w hatal rhag cael ei defnyddio eto, a llwyddodd i dynnu’r gyllell o afael y bachgen.
Rhedodd y bachgen i ffwrdd a chafodd ei arestio gan yr heddlu yn hwyrach y prynhawn hwnnw.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.
'Cynllunio o flaen llaw'
Wrth ddedfrydu'r bachgen 16 oed, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC ei fod yn "lwc pur" nad oedd Vicki Williams wedi dioddef anafiadau gwaeth.
"Nid wyf yn gwybod pam eich bod wedi ymosod ar Mrs Williams gyda'r gyllell honno, wnaethoch chi erioed ddweud wrth neb pam wnaethoch chi hynny," meddai.
"Rwyf yn credu ei bod hi wedi eich cynhyrfu chi mewn ffordd, ond nid wyf yn gwybod pam yn union.
"Yr hyn rwyf yn gwybod yn sicr yw eich bod wedi mynd â'r gyllell i'r ysgol y diwrnod hwnnw oherwydd roeddech chi eisiau achosi niwed iddi.
"Roeddech chi'n gwybod bod yr hyn roeddech chi am ei gyflawni yn anghywir, ond roeddech chi wedi cynllunio o flaen llaw."
Ychwanegodd y barnwr: “Roeddech chi'n gwybod na fyddai hi'n gallu eich atal yn gorfforol, a phan wnaethoch chi ei thrywanu yn rhan uchaf ei phen gyda'r gyllell, roeddech chi'n gwybod y gallai hynny achosi llawer iawn o niwed iddi o leiaf.
"Mae'n lwc pur nad oedd hi wedi dioddef anafiadau gwaeth, neu hyd yn oed anafiadau angheuol."
Achos llys
Yn ystod yr achos llys ym mis Gorffennaf, cyfaddefodd y bachgen, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oedran, fod ganddo lafn ar dir yr ysgol ond roedd wedi gwadu ceisio llofruddio’r athrawes.
Cafwyd y bachgen yn ddi-euog o geisio llofruddio ond yn euog o anafu gan achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Wedi iddo gael ei ddedfrydu, dywedodd Jonathan Pritchard o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd hwn yn drais brawychus yn erbyn athrawes a oedd yn gwneud ei gwaith.
"Mae cyllyll yn achosi anafiadau ofnadwy sy’n gallu arwain yn aml at ganlyniadau angheuol. Roedd yr athrawes wedi bod yn ddewr iawn mewn digwyddiad cwbl frawychus.
"Roedd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi arwain at yr euogfarnau hyn, a gobeithio byddant yn rhoi rhywfaint o gysur i ddioddefwr yr ymosodiad erchyll hwn.”