Chwech o bob deg yn cael diagnosis HIV hwyr yng Nghymru

Triniaeth HIV

Cafodd mwy na chwech o bob deg o bobl a gafodd ddiagnosis HIV yng Nghymru y llynedd ddiagnosis hwyr, yn ôl adroddiad newydd. 

Dyma’r gyfran uchaf mewn pum mlynedd, er bod mwy o bobl wedi cael prawf HIV nag mewn unrhyw flwyddyn arall yn y cyfnod.

“Mae diagnosisau hwyr yn awgrymu y gallai cyfleoedd i brofi pobl fod wedi’u colli, ac mae cael diagnosis hwyr yn gallu effeithio ar iechyd pobl,” meddai’r adroddiadgan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd 132,449 o bobl brawf HIV yng Nghymru yn 2025, cynnydd o 4.3% mewn blwyddyn a’r nifer uchaf yn y cyfnod 2021–25. O'r rheini fe gafodd 82 wybod fan ganddyn nhw HIV.

Roedd canlyniad prawf gwaed ar gael i asesu pa mor ddatblygedig oedd yr haint mewn 68 o’r achosion hynny. Cafodd 42 o’r 68 (62%) ddiagnosis hwyr, o gymharu â 35 o 67 (52%) yn 2024. 

Yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro roedd y gyfradd uchaf o ddiagnosisau newydd yn 2025, gyda 4.1 am bob 100,000 o bobl o gymharu â 2.6 ledled Cymru.

Fe wnaeth nifer y marwolaethau ymhlith pobl sy’n byw gyda HIV fwy na dyblu, o 21 yn 2024 i 49 yn 2025. Roedd 57% o’r rhai a fu farw dros 65 oed.

“Mae rhagor o waith ar y gweill i edrych ar batrymau yn achosion sylfaenol y marwolaethau ac i ba raddau y cyfrannodd HIV atyn nhw,” meddai’r adroddiad.

Yn y gorffennol, rhyw rhwng dynion oedd y ffordd fwyaf cyffredin yr oedd pobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn debygol o fod wedi dal HIV. 

“Ond yn y blynyddoedd diwethaf, rhyw rhwng dyn a menyw yw’r ateb mwyaf cyffredin,” meddai’r adroddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.