Prifysgol Bangor i symud myfyrwyr Neuadd JMJ i adeilad arall
Prifysgol Bangor i symud myfyrwyr Neuadd JMJ i adeilad arall
Mae Prifysgol Bangor wedi dweud ei bod yn symud Neuadd JMJ i adeilad arall i "fuddsoddi yn nyfodol" ei chymuned Gymraeg.
Neuadd John Morris-Jones, neu Neuadd JMJ, yw'r neuadd breswyl Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r Brifysgol wedi cadarnhau y bydd y neuadd yn symud o Fryn Dinas i Neuadd Gwynant ar y safle cyfagos, Ffriddoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: "Mae'r penderfyniad i symud myfyrwyr JMJ i adeilad arall yn ymwneud â buddsoddi yn nyfodol ein cymuned Gymraeg.
"Er bod yr adeilad presennol yn gysylltiedig â llawer o atgofion, y gymuned, y cyfeillgarwch a'r profiad Cymraeg sy'n diffinio JMJ, nid yr adeilad ei hun.
"Mae'r penderfyniad yma yn creu cyfle i ni ddarparu llety a chyfleusterau o ansawdd gwell i fyfyrwyr, gan gynnal yr ymdeimlad cryf o berthyn sydd wedi bod wrth galon bywyd Cymraeg yn y Brifysgol erioed.
"Mae hwn yn gam cadarnhaol fydd yn helpu i sicrhau bod y gymuned yn parhau i fod yn fywiog ac yn gynhwysol."
Dywedodd Ross Griffiths, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, nad yw'r penderfyniad yn "ddim byd i boeni amdano".
"Beth sy' 'di digwydd efo'r adeilad ydy rheolau newydd sy'n dod i fewn sy'n meddwl mae costau i gadw Bryn Dinas ar agor jyst gormod i'r prifysgol i ddeud y gwir," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ac oherwydd hynny, mae'r adeilad JMJ jyst yn symud i Gwynant fel wnaeth o o Garth i Bryn Dinas, ac os wbath ma' myfyrwyr Cymraeg yn cael neuaddau gwell ohoni.
"Dan ni dal yn cadw ein stafell cyffredin a 'dan ni dal yn cadw ein hawl fod mae'r neuadd yna i fyfyrwyr Cymraeg a dysgwyr yn unig."
Daw'r cadarnhad yr un diwrnod â'r cyhoeddiad y bydd y Brifysgol yn dechrau ar gyfnod o ymgynghori ar ddiswyddiadau gwirfoddol fel rhan o gynllun i arbed o leiaf £15 miliwn.