Prifysgol Bangor i ymgynghori ar ddiswyddo staff yn wirfoddol
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau ar gyfnod o ymgynghori ar ddiswyddiadau gwirfoddol fel rhan o gynllun i arbed o leiaf £15 miliwn.
Ni wnaeth y brifysgol ddweud faint o swyddi allai fynd, wrth gyhoeddi'r cyfnod ymgynghori mewn cyfarfod staff ddydd Iau. Mae undeb UCU yn amcangyfrif y gallai olygu rhwng 100 a 150 o swyddi.
Bydd y broses ymgynghori ar ddiswyddiadau gwirfoddol yn dechrau yn y flwyddyn newydd.
Mewn cyfarfod i’r holl staff, fe amlinellodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, y pwysau ariannol sy’n wynebu’r brifysgol.
Yn ôl y brifysgol, mae nifer y myfyrwyr wedi gostwng, gan gynnwys nifer y myfyrwyr o dramor.
Dywedodd fod costau ynni a chyflogi staff wedi codi, a bod ffioedd dysgu wedi methu â chadw i fyny â chwyddiant.
Dywedodd yr Athro Burke: “Mae prifysgolion yn wynebu heriau ariannol sylweddol, ac mae hynny’n golygu newidiadau mawr i’r ffordd yr ydym yn gweithredu.
"Rydym yn cymryd camau nawr i liniaru rhagolygon economaidd anodd iawn. Mae’r rhain yn benderfyniadau pwysig nad wyf yn eu gwneud ar chwarae bach”.
Dywedodd y brifysgol y byddai’n gweithio gyda staff, myfyrwyr ac undebau llafur yn ystod yr ymgynghoriad.
Ychwanegodd mai nod y cynllun yw sicrhau bod ei chyllid yn sefydlog a’i bod yn gallu parhau i gynnig addysg a chefnogaeth o’r safon uchaf posibl i fyfyrwyr.
'Argyfyngus'
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Dyfrig Jones, Llywydd Undeb UCU yn y brifysgol fod y sefyllfa ymysg prifysgolion yn un "argyfyngus".
“Mae’n argyfwng ar y sector addysg uwch, mae’n argyfwng yn ein prifysgolion ni nas gwelwyd o’r blaen.
“Does neb sydd yn gweithio yn ein prifysgol ni heddiw sydd yn gallu cofio sefyllfa mor argyfyngus ar gyfer y gweithlu”.
Ychwanegodd fod y toriadau yn golygu colli swyddi o safon ac yn effeithio ar y gymuned yn ehangach:
“O ran y gymuned leol, mae’n rhaid i ni gofio fod rhain gan amlaf yn swyddi o ansawdd sydd yn talu’n dda iawn, yn swyddi sefydlog ac mi fydd colli’r swyddi yna yn ergyd drom i brifysgolion ond hefyd yn un gymdeithasol a diwylliannol.
“Mae’n prifysgolion yn gwasanaethu ein myfyrwyr ond yn aml yn gwasanaethu y gymuned leol hefyd.
'Torcalonnus'
Dywedodd Mr Jones fod ysbryd y staff ym Mhrifysgol Bangor ar ei isaf ers blynyddoedd, a bod y sefyllfa i staff yn un "torcalonnus."
“Mi o ni’n lywydd cangen yr undeb yn y brifysgol nôl yn 2020 pan aethom ni drwy rownd eithriadol o anodd o ddiswyddiadau, bron i 10% o’r gweithlu wedi’w golli.
“Dwi’n cofio dweud wrth rhywun ar y pryd, ‘dwi ‘rioed yn cofio morâl mor isel’ - roedd hynny chwe mlynedd yn ôl ac mae morâl wedi mynd yn is ac yn is ac yn is ers hynny.
“Mae’n dorcalonnus bod yn weithwyr prifysgol ar hyn o bryd. Mi yda ni’n poeni yn ddi-ddiwedd a oes na ddyfodol i ni yn y brifysgol. "
Ym mis Chwefror y llynedd fe gyhoeddodd y brifysgol y byddai’n rhaid gwneud arbedion o £15m. Roedd hyn yn cyfateb i tua 200 o swyddi ar y pryd.
Erbyn mis Mai 2025, roedd hynny wedi newid, gyda thargedau arbedion y brifysgol wedi gostwng i tua £5.3 miliwn - oedd yn cynrychioli oddeutu 78 o swyddi cyfwerth llawn amser.
Heriau prifysgolion
Mae prifysgolion y wlad wedi wynebu cyfnod ariannol hynod o heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda diffyg o £130m ar draws y sector yn 2024/25 meddai Prifysgolion Cymru, y corff sy'n eu cynrychioli.