Cyhuddo Andy Burnham o 'fethu â gwrando ar Gymru'

Cyhuddo Andy Burnham o 'fethu â gwrando ar Gymru'

Mae AS Plaid Cymru wedi cyhuddo Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, o fethu â gwrando ar Gymru wedi iddo wrthod galwadau i ddatganoli rhagor o bwerau.

Yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, dywedodd AS Caerfyrddin, Ann Davies, fod Mr Burnham wedi anwybyddu galwadau gan awdurdodau lleol, undebau llafur a dau o gyn-Brif Weinidogion Cymru.

Daw ei sylwadau wedi i Mr Burnham gadarnhau mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, yr wythnos ddiwethaf na fydd yn datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder, Ystad y Goron a seilwaith rheilffyrdd i Gymru.

Mae Mr ap Iorwerth wedi disgrifio'r penderfyniad fel un "siomedig iawn", ac wedi galw am sefydlu cynghrair newydd i bwyso am ragor o bwerau i Gymru.

Wrth herio Mr Burnham yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, dywedodd Ms Davies: "Pan ddaeth yn Brif Weinidog ym mis Gorffennaf, addawodd roi diwedd ar wrthwynebiad Whitehall i ddatganoli, ac addawodd wrando ar Gymru.

"Mae'n siomedig iawn, felly, ei fod wedi diystyru'r mandad a roddwyd gan bobl Cymru i gael mwy o gyfrifoldeb.

"Mae wedi anwybyddu galwadau pob un o'r 22 cyngor yng Nghymru, TUC Cymru a dau gyn-Brif Weinidog Llafur Cymru, Carwyn Jones a Mark Drakeford.

"Yr wythnos diwethaf, ni chafodd y Prif Weinidog ei argyhoeddi, a dywedodd 'na'.

"Felly, pryd yn union y penderfynodd nad oedd Cymru bellach yn werth gwrando arni?"

Wrth ymateb, mynnodd Mr Burnham ei fod yn gwrando ar Gymru, gan ddweud ei fod wedi cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru ar sawl achlysur.

"Rwyf wedi cynnig datganoli dyfnach o ran cymorth cyflogaeth," meddai.

"Felly, gadewch i ni weithio yn gyntaf lle mae achos clir a thir cyffredin rhyngom, er mwyn i ni allu cael mwy o bobl ifanc i mewn i waith ac i swyddi da.

"Ni fyddaf byth yn diystyru pethau'n llwyr, ond ar hyn o bryd, dyma'r mater y dylem weithio arno."

Image
Andy Burnham a Rhun ap Iorwerth. Llun: PA
Andy Burnham a Rhun ap Iorwerth. Llun: PA

Anghydfod dros ddatganoli

Ar 1 Hydref eleni, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ysgrifennu at Andy Burnham yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran datganoli rhagor o bwerau.

Ymhlith y prif flaenoriaethau roedd datganoli plismona a chyfiawnder, Ystad y Goron a seilwaith rheilffyrdd

Roedd Mr ap Iorwerth hefyd yn galw am ddiwygio'r ffordd y mae Cymru'n cael ei hariannu, gyda'r nod o sicrhau bod gan Gymru o leiaf yr un pwerau â'r Alban.

Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru ddydd Gwener, 20 Tachwedd, dywedodd Mr Burnham nad oedd wedi ei argyhoeddi gan yr achos dros drosglwyddo'r pwerau hynny.

Roedd yn dadlau bod y system blismona bresennol yng Nghymru a Lloegr yn galluogi heddluoedd i gydweithio dros y ffin ac yn sicrhau bod gan heddluoedd Cymru fynediad at adnoddau ac arbenigedd cenedlaethol.

Ond fe gynigiodd Llywodraeth y DU gynnal trafodaethau pellach ynghylch datganoli cymorth cyflogaeth, cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, yn ogystal â rhoi mwy o lais i Lywodraeth Cymru yn y ffordd y caiff plismona ei lywodraethu.

Wrth ymateb ddydd Llun, cyhuddodd Mr ap Iorwerth Brif Weinidog y DU o beidio ag ystyried Cymru fel cenedl gyfartal, gan ofyn am gyfarfod brys gydag ef.

Yn ystod datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth, fe alwodd am sefydlu cynghrair newydd i sicrhau mai pobl Cymru a'u cynrychiolwyr etholedig fyddai'n llywio dyfodol cyfansoddiadol y wlad.

'Mae datganoli yn broses, nid digwyddiad'

Mae penderfyniad Mr Burnham wedi arwain at arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates yn datgan ei fod yn cefnogi datganoli rhagor o bwerau, gan gynnwys plismona ac Ystad y Goron.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe alwodd ar y ddwy lywodraeth i barhau â'r trafodaethau er gwaethaf yr anghytundeb.

Dywedodd Mr Skates fod datganoli yn broses, nid digwyddiad, a bod safbwynt ei blaid o ran cefnogi datganoli pellach i Gymru ac o fewn Cymru yn parhau'n glir.

Mae Mr Skates wedi galw am ddatganoli cymorth cyflogaeth er mwyn mynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, yn ogystal â datganoli cyllid arloesi a chyfiawnder ieuenctid.

Mae hefyd wedi galw am ragor o eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch pam nad yw'n barod i ddatganoli plismona'n llawn.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Skates ei fod yn gweld cyfleoedd i Gymru yng nghynigion Llywodraeth y DU, er bod meysydd lle'r oedd am weld y llywodraeth yn mynd ymhellach.

'Mr Datganoli'

Fe wnaeth Ann Davies hefyd gyhuddo Mr Burnham o arddel safbwynt gwahanol tuag at ddatganoli yng Nghymru a Lloegr.

"Pan ddaeth y Prif Weinidog i rym, cyflwynodd ei hun fel 'Mr Datganoli'," meddai.

"Credodd llawer o bobl yng Nghymru ei air pan addawodd y byddai'n rhoi terfyn ar wrthwynebiad Whitehall i ddatganoli pŵer a chyfrifoldeb, yn seiliedig ar barch.

"Dyna pam roedd ei benderfyniad yr wythnos diwethaf mor siomedig. O ran Lloegr, mae e o'r farn y dylid trosglwyddo pŵer allan o San Steffan. Ond o ran Cymru, mae'n benderfynol o'i gadw i mewn.

"Mae Cymru yn gofyn am bwerau sydd eisoes yn cael eu harfer mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Yn hytrach nag ymgysylltu â'r ddadl honno, dywedodd y Prif Weinidog 'na' "

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.