Ceredigion: Cynlluniau i adeiladu parc dŵr newydd ger Aberaeron
Mae’r camau cyntaf ar gyfer cynnig i ddatblygu parc dŵr newydd ar safle busnes yn Llwyncelyn ger Aberaeron wedi eu cyflwyno.
Chris a Geraint Thomas sydd yn berchen ar siop fferm Moody Cow and Welsh Kitchen ynghyd â Fferm Bargoed a Moody Meadows.
Ar hyd y blynyddoedd mae’r safle wedi datblygu ac erbyn hyn mae parc trampolinau ar y safle a llety glampio.
Fis Ebrill diwethaf, agorodd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ehangu’r atyniad drwy ddatblygu parc dŵr a chyfleuster hamdden.
Nododd yr ymgynghoriad: “Mae gan Fferm Bargoed gynlluniau ar gyfer parc dŵr a chyfleuster hamdden newydd cyffrous, gyda mannau dan do ac yn yr awyr agored, er mwyn cynnig gweithgareddau dŵr drwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr a’r gymuned leol.”
“Ein nod yw creu un o brif atyniadau hamdden y Canolbarth, gan gynnig lle i deuluoedd gael hwyl, cadw’n heini ac ymlacio, a chefnogi’r economi leol drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal.” meddai.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Chris Thomas, fod y cynllun ar gyfer parc dŵr, canolfan les, canolfan ffitrwydd a sba gyda llety bellach yn swyddogol.
Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn dod â buddsoddiad i’r sir ac yn creu swyddi.
Dywedodd y byddai'n “rhoi cyfleusterau modern o’r radd flaenaf i bobl wych Ceredigion” a “rhoi i dwristiaeth yng Ngheredigion y gyrchfan o’r safon uchaf y mae’n ei haeddu”.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: "Oherwydd maint y datblygiad arfaethedig, mae’n ofynnol i’r ymgeiswyr gynnal ymgynghoriad cyn cyflwyno cais cynllunio."
Mae’r cyngor yn rhagweld y gallai cais cynllunio gael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr neu fis Ionawr.
Mae’r ymgynghoriad cyn ymgeisio yn ymwneud â chynnig i “reoleiddio ac ehangu’r maes carafanau presennol yn Moody Meadows (Bargoed Farm), a datblygu cyfleuster hamdden a phwll nofio, gan gynnwys mynediad, mannau parcio, draenio, seilwaith arall a gwaith pridd cysylltiedig”.
Mae elfen gyntaf y cynnig yn ymwneud â rheoleiddio pum llain bresennol sydd eisoes wedi’u cymeradwyo, a datblygu 40 o unedau ychwanegol.
Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys cyfleuster hamdden a phwll nofio i’r de-ddwyrain o brif ganolfan Moody Meadows, ynghyd â 270 o lefydd parcio.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 20 Rhagfyr, ac mae disgwyl i gais ffurfiol gael ei gyflwyno ar ôl y dyddiad hwnnw.