72 achos o gerbydau yn taro pontydd rheilffordd yng Nghymru mewn cyfnod o flwyddyn

Llun: Network Rail
Ffordd Aberystwyth, Ffordd Peterston a Traffle Mill

Fe gafodd pontydd rheilffordd eu taro ar 72 achlysur yng Nghymru mewn cyfnod o flwyddyn, yn ôl ffigurau newydd.

Pont reilffordd yng Nghaersŵs, Powys gafodd ei tharo gan gerbydau fwyaf, gyda phum digwyddiad gwahanol.

Cafodd pont yn Llanbedr-y-fro, Bro Morgannwg, ei tharo bedair gwaith.

Mae'r ffigurau gan Network Rail yn dangos bod 72 o achosion o gerbydau'n taro pontydd rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.

Mae hynny'n gynnydd o gymharu â 70 o achosion yn 2024/25 a 68 yn 2023/24.

Arweiniodd y gwrthdrawiadau at gyfanswm o 271 awr, sef dros 11 diwrnod o oedi, i wasanaethau trenau teithwyr a nwyddau, gan gostio dros £600,000 mewn achosion o oedi, canslo gwasanaethau a gwaith atgyweirio.

Image
Y pontydd rheilffordd gafodd eu taro amlaf yn 2025/26
Y pontydd rheilffordd gafodd eu taro amlaf yn 2025/26

Cafodd 55 o wahanol strwythurau rheilffordd eu taro gan gerbydau yn ystod y flwyddyn.

Mae gwrthdrawiadau o'r fath yn aml yn digwydd pan fydd cerbydau uchel, fel lorïau, yn ceisio teithio o dan bontydd sydd ddim yn ddigon uchel iddynt basio'n ddiogel.

Yn ogystal ag achosi difrod i seilwaith y rheilffyrdd, gall y gwrthdrawiadau beryglu diogelwch defnyddwyr y ffyrdd, teithwyr a staff y rheilffyrdd.

Ar draws Prydain, cafodd 1,706 o achosion o gerbydau'n taro pontydd rheilffordd eu cofnodi yn ystod yr un cyfnod, cyfartaledd o un bob pum awr.

Arweiniodd y gwrthdrawiadau hynny at gostau o tua £13.25 miliwn.

Image
Cerbyd yn downd dan bont ar Ffordd Peterston. Llun: Network Rail
Cerbyd yn sownd dan bont ar Ffordd Peterston. Llun: Network Rail

'Mae modd osgoi pob gwrthdrawiad'

Mae Network Rail yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chwmnïau cludo nwyddau er mwyn lleihau nifer y gwrthdrawiadau, gan gynnwys gwella arwyddion rhybuddio ger pontydd.

Mae gwaith wedi ei gwblhau yn ddiweddar i adnewyddu'r arwyddion ger y bont reilffordd yng Nghaersŵs er mwyn tynnu sylw gyrwyr at uchder isel y bont.

Yng Nghasnewydd, mae Network Rail wedi cydweithio â'r cyngor i osod rhwystrau cyfyngu uchder bob ochr i bont reilffordd ar Ffordd Bishton.

Dywedodd Thomas Edwards, rheolwr rhaglen gyda Network Rail yng Nghymru a'r Gororau: "Mae modd osgoi pob achos o gerbyd yn taro pont, ac eto rydym yn parhau i weld digwyddiadau ar draws ein rhwydwaith sy'n peryglu pobl ac yn achosi tarfu diangen i deithwyr.

"Mae ein ffigurau'n dangos bod rhai pontydd yn cael eu taro dro ar ôl tro, gyda phont Ffordd Aberystwyth yn unig wedi cael ei tharo bum gwaith mewn dim ond 12 mis.

"Pan fydd cerbyd yn taro pont reilffordd, nid problem i'r gyrrwr yn unig yw hynny. Efallai y bydd angen i ni atal trenau tra bod ein peirianwyr yn archwilio'r strwythur i sicrhau ei fod yn ddiogel, gan achosi oedi i deithwyr ac, yn aml, difrod costus i'r rheilffordd."

Mae Network Rail yn annog gyrwyr cerbydau uchel i wirio uchder eu cerbydau, cynllunio eu teithiau ymlaen llaw a rhoi sylw i arwyddion rhybuddio.

"Mae ein neges yn syml: gwybod uchder eich cerbyd, cynllunio eich taith yn ofalus a rhoi sylw i gyfyngiadau uchder bob amser," ychwanegodd Mr Edwards.

"Gallai cymryd ychydig eiliadau i wirio atal gwrthdrawiad peryglus ac oriau o darfu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.