Mam y baban Peter Connelly i aros yn y carchar

Tracey Connelly / Baby P

Bydd mam Peter Connelly, y bachgen bach a fu farw yn dilyn misoedd o gamdriniaeth, yn aros yn y carchar wedi i'w chais i gael ei rhyddhau gael ei gwrthod.

Ond fe wnaeth y Bwrdd Parôl argymell bod Tracey Connelly yn cael ei symud i garchar agored.

Cafodd Connelly ei charcharu yn 2009 wedi iddi bledio'n euog i achosi neu ganiatáu marwolaeth ei mab a gafodd ei adnabod fel 'Baby P'  adeg yr achos llys.

Bu farw'r bachgen yn ei gartref yn Tottenham yng ngogledd Llundain ar 3 Awst 2007.

Roedd ganddo dros 50 o anafiadau, er ei fod ar y gofrestr plant mewn perygl, ac wedi cael 60 o ymweliadau gan weithwyr cymdeithasol, swyddogion yr heddlu a gweithwyr iechyd proffesiynol dros gyfnod o wyth mis.

Cafodd partner Connelly ar y pryd, Steven Barker, a'i frawd Jason Owen, eu dyfarnu'n euog o'r un drosedd.

Wrth roi tystiolaeth yn ystod ei gwrandawiad parôl cyhoeddus, cyfaddefodd Connelly iddi fod yn fam "erchyll" a'i bod yn gwybod, yn ddwfn yn ei chalon, fod Barker yn cam-drin ei mab.

Cyfaddefodd hefyd y byddai'n peri risg i blant yn ei gofal, ond mynnodd nad oedd ganddi unrhyw fwriad i ddod i gysylltiad â phlant pe bai'n cael ei rhyddhau.

Dywedodd y Bwrdd Parôl: "Dim ond os yw panel y Bwrdd Parôl yn fodlon bod y risg i'r cyhoedd wedi lleihau'n ddigonol i allu ei rheoli mewn carchar agored y byddwn yn gwneud argymhelliad o'r fath."

Bydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Alex Norris, yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a fydd Connelly yn cael ei symud.

Dychwelyd i'r carchar

Cafodd Connelly ddedfryd o garchar am gyfnod amhenodol er mwyn diogelu'r cyhoedd, gydag isafswm o bum mlynedd yn 2009.

Fe gafodd ei rhyddhau ar drwydded yn 2013 cyn cael ei hanfon yn ôl i'r carchar yn 2015 wedi iddi dorri amodau ei thrwydded.

Cafodd ei rhyddhau am yr eildro ym mis Gorffennaf 2022, ond fe gafodd ei hanfon yn ôl i'r carchar ym mis Awst 2024 wedi iddi fethu â datgelu ei bod mewn perthynas rywiol â dyn priod.

Roedd seicolegydd a swyddogion a oedd yn gyfrifol am ei goruchwylio wedi argymell ei rhyddhau dan amodau.

Dyma oedd seithfed adolygiad parôl Connelly ers iddi ddod yn gymwys i gael ei rhyddhau.

Yn dilyn marwolaeth Peter yn 2007, daeth cyfres o adolygiadau i'r casgliad bod swyddogion wedi colli cyfleoedd i achub ei fywyd drwy fethu ag ymateb yn briodol i arwyddion rhybudd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.