Carcharor yn pledio’n euog i lofruddio Ian Huntley

Ian Huntley

Mae dyn a oedd eisoes yn garcharor gydol oes wedi pledio yn euog i lofruddio Ian Huntley.

Fe wnaeth Anthony Russell, 44, gyfaddef iddo lofruddio Huntley, oedd yn 52 oed, yn Llys y Goron Newcastle ddydd Mawrth.

Cafodd Huntley ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad mewn gweithdy yng ngharchar HMP Frankland ar fore Iau, 26 Chwefror.

Roedd wedi cael ei gadw ar beiriant cynnal bywyd ar ôl cael ei daro dro ar ôl tro ar ei ben gyda bar metel.

Fe fuodd farw yn yr ysbyty ar 7 Mawrth.

Roedd wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar am lofruddio Holly Wells a Jessica Chapman, y ddwy yn 10 oed, yn 2002.

Fe fydd Anthony Russell yn cael ei ddedfrydu brynhawn Mawrth.

Dywedodd Christopher Atkinson o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS): “Roedd hon yn ymosodiad bwriadol yr oedd Russell wedi’i gynllunio. Fe ddewisodd arf a’i guddio cyn aros am gyfle i daro.

“Honnodd Russell nad oedd ganddo ‘ddim i’w golli’ drwy ymosod gan ei fod eisoes yn bwrw dedfryd o garchar am weddill ei oes am lofruddio a threisio.

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda Heddlu Durham i lunio achos cadarn yn erbyn Russell, ac o ganlyniad mae wedi pledio’n euog heddiw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.