Gwaith ar Bont Menai wedi'i ohirio am chwe mis arall tan Hydref 2027
Gwaith ar Bont Menai wedi'i ohirio am chwe mis arall tan Hydref 2027
Mae gwaith atgyweirio Pont Menai wedi cael ei ohirio am o leiaf chwe mis arall, gyda Llywodraeth Cymru bellach yn dweud na fydd y gwaith wedi'i gwblhau tan fis Hydref 2027.
Mae hynny bum mlynedd ers i'r gwaith ddechrau ar y bont hanesyddol ym mis Hydref 2022, yn dilyn pryderon am ei diogelwch a phroblemau strwythurol.
Roedd disgwyl i ail gam y gwaith ar y bont, sydd tua 200 mlwydd oed, gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027.
Ond mae UK Highways A55 Ltd, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont ar ran Llywodraeth Cymru, wedi cadarnhau y bydd y gwaith yn parhau tan o leiaf hydref 2027.
Y rheswm am yr oedi diweddaraf yw bod dŵr wedi cael ei ddarganfod yn treiddio i'r gwaith dur o dan y bont.
Nid oedd archwiliadau cynharach wedi canfod y broblem, ac roedd hynny'n golygu nad oedd modd gosod y system baent arfaethedig yn ddibynadwy.
Er mwyn osgoi oedi pellach, mae UK Highways A55 Ltd wedi aildrefnu gweddill y gwaith ac wedi chwilio am system baent arall sy'n gallu gwrthsefyll lleithder ac sy'n addas ar gyfer strwythurau treftadaeth.
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, wedi disgrifio'r oedi diweddaraf fel un "annerbyniol".
"Mae pobl wedi goddef oedi ac anghyfleustra ar y bont hon am ormod o amser, a dyna pam mae'r llywodraeth hon wedi gweithredu'n gyflym i gychwyn ar drydedd bont dros y Fenai," meddai.
"Roeddwn i'n hynod siomedig ac yn rhwystredig clywed gan y contractwyr y bydd eu rhaglen atgyweirio, sydd wedi gweld nifer o oediadau, yn cael ei gohirio unwaith eto.
"Rwyf wedi ei gwneud yn glir i UK Highways A55 Ltd ers ymgymryd â'r rôl hon pa mor bwysig yw cynnal momentwm a meithrin hyder yn y rhaglen waith, felly mae'r oedi diweddaraf hwn yn annerbyniol."
Dywedodd Mr Hooper ei fod yn cydnabod y gallai prosiectau o'r fath wynebu heriau annisgwyl, ond bod angen iddo ddeall pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau.
"Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Equitix, sef corff llywodraethu UK Highways A55 Ltd, yn mynegi fy rhwystredigaeth a fy mhryderon ac wedi galw am gyfarfod brys i drafod y materion hyn er mwyn sicrhau bod y gwaith wedi cael ei gwblhau erbyn y dyddiad diwygiedig."
Beth fydd yn digwydd i draffig?
Yn ôl UK Highways A55 Ltd, bydd y rhaglen waith newydd yn ceisio sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau'n ddiogel, gan leihau'r tarfu ar gymunedau lleol.
Yn rhan o hynny, bydd y rheolaethau traffig presennol yn cael eu tynnu oddi ar y bont am weddill 2026.
Ond bydd y terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn parhau mewn grym drwy gydol ail gam y gwaith.
Mae'r cwmni'n dweud y bydd yn parhau i geisio sicrhau bod y bont yn gweithredu'n ddiogel tra bod y gwaith atgyweirio'n mynd rhagddo.
Bron i £8.5 miliwn wedi'i wario
Dechreuodd y gwaith ar y bont ym mis Hydref 2022 yn dilyn pryderon ynghylch ei chyflwr strwythurol a'i diogelwch.
Ers hynny, mae'r rhaglen atgyweirio wedi wynebu sawl oedi.
Gyda'r dyddiad cwblhau bellach wedi'i symud i Hydref 2027, bydd y gwaith wedi para o leiaf bum mlynedd.
Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd am gynnydd y gwaith.