Caerdydd: Carcharu gyrrwr a achosodd farwolaeth teithiwr wrth 'ddangos ei hun'
Mae dyn 31 oed o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am naw mlynedd wedi iddo achosi marwolaeth un o'i deithwyr ac anafu dau arall yn ddifrifol wrth yrru car Mercedes ar gyflymder o tua 90mya ar draffordd yr M4.
Roedd Aadil Sabir, o Gerddi Pentre yn ardal Grangetown, Caerdydd, yn gyrru ger maes awyr Heathrow pan gollodd reolaeth ar ei gar, a darodd rwystr ar ochr y ffordd cyn i'r car ffrwydro.
Bu farw William Bailey, 28 oed, ar ôl cael ei ddal yn y cerbyd, tra bod dau deithiwr arall wedi dioddef anafiadau a newidiodd eu bywydau.
Roedd Sabir wedi llwyddo i ddianc o'r car heb anafiadau difrifol, heblaw am losgiadau i'w ddwylo a'i fysedd wrth iddo geisio helpu'r teithwyr.
Mewn gwrandawiad blaenorol, fe bediodd yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac achosi anafiadau difrifol i Azfur Khan a Hamad Zaman.
Wrth ei ddedfrydu yn yr Old Bailey yn Llundain ddydd Llun, disgrifiodd y Barnwr Philip Katz KC y diffynnydd fel rhywun oedd yn "dangos ei hun".
Cafodd Sabir ei garcharu am naw mlynedd a'i wahardd rhag gyrru am 11 mlynedd.
'Cyflymu fel roced'
Clywodd y llys fod Sabir a'i deithwyr wedi bod mewn sioe geir ar 29 Hydref 2023, a'u bod ar eu ffordd i Lundain i gael rhywbeth i'w fwyta.
Tua 11:25 y bore, roedd swyddogion traffig wedi gosod rhwystr ar yr M4 oherwydd gwrthdrawiad cynharach.
Roedd hi wedi bod yn bwrw glaw ac roedd dŵr yn sefyll ar wyneb y ffordd.
Roedd arwydd electronig uwchben y draffordd yn nodi mai 60mya oedd y terfyn cyflymder.
Ychydig cyn i'r rhwystr gael ei godi, roedd swyddog traffig wedi rhybuddio Sabir a gyrwyr eraill i gymryd pwyll.
Ond clywodd y llys fod Sabir wedi cyflymu'n sydyn yn ei Mercedes C63, oedd ag injan V8 chwe litr.
Dywedodd y barnwr nad oedd unrhyw yrrwr call yn mynd i weld codi'r rhwystr fel cyfle i ddangos pŵer ei gar.
"Ond dyna wnaethoch chi. Fe wnaethoch chi wasgu'r sbardun yn galed ac, yng ngeiriau gyrrwr arall oedd hefyd mewn car pwerus, fe wnaethoch chi 'gyflymu fel roced'," meddai'r barnwr.
"Fe wnaeth hyd yn oed fflachio ei oleuadau atoch chi rhag ofn nad oeddech wedi sylwi ar y terfyn cyflymder.
"Disgrifiodd yr hyn a welodd fel dechrau ras ceir."
Dangosodd dadansoddiad o luniau fideo fod y Mercedes wedi cyrraedd cyflymder o 90mya tua 350 metr cyn y gwrthdrawiad.
Y gred yw bod y car wedi dechrau llithro ar wyneb y dŵr tua 150 metr cyn i Sabir golli rheolaeth arno.
Yna fe darodd y cerbyd y rhwystr ar ochr y draffordd cyn ffrwydro.
'Marwolaeth oedd modd ei hosgoi'
Wrth gyfeirio at luniau teledu cylch cyfyng o'r gwrthdrawiad, dywedodd y Barnwr Katz eu bod yn "arswydus", gan wrthod disgrifio'r hyn a ddigwyddodd fel damwain.
"Roedd William Bailey yn 28 oed pan gafodd ei ladd oherwydd gyrru peryglus rhywun oedd yn dangos ei hun," meddai.
"Roedd modd osgoi ei farwolaeth yn llwyr."
Ychwanegodd y barnwr fod rhieni a chwaer William wedi ei ddisgrifio fel dyn caredig, gweithgar ac uchelgeisiol oedd yn cael ei garu gan bawb oedd yn ei adnabod.
Roedd ganddo ei gwmni adeiladu ei hun a phortffolio o eiddo, ac roedd yn falch o'i lwyddiannau.
"Roedd Will yn gwerthfawrogi ei fywyd ac yn edrych ymlaen at ei ddyfodol," meddai'r barnwr.
Wrth annerch Sabir yn uniongyrchol, dywedodd: "Aadil Sabir, chi oedd y gyrrwr peryglus a achosodd yr holl niwed, poen a dioddefaint hwn."
"I bob pwrpas, roeddech chi'n dangos eich hun ac yn rasio o flaen y cerbydau eraill.
"Fe wnaethoch chi anwybyddu'r terfyn cyflymder yn fwriadol, yn ogystal â phresenoldeb swyddogion traffig oedd yn rhybuddio gyrwyr i gymryd pwyll.
"Mae'n amlwg na wnaethoch chi ystyried y perygl amlwg a difrifol i bobl eraill, yn enwedig eich teithwyr."
Ychwanegodd y barnwr fod Sabir yn yrrwr profiadol iawn, ar ôl gweithio yn y diwydiant ceir yn gynharach yn ei yrfa.
Wedi ei ddedfrydu, fe wnaeth y barnwr gydnabod nad oedd gan Sabir hanes o droseddu, ei fod yn ddyn teulu gweithgar a'i fod wedi mynegi edifeirwch am ei weithredoedd.