'Dim gweithgarwch corfforol': Chwaraeon Cymru yn dadlau nad yw gwyddbwyll yn gamp

Gwyddbwyll
Gwyddbwyll

Mae Uwch Swyddog Llywodraethu Chwaraeon Cymru wedi ysgrifennu at bwyllgor y Senedd yn dadlau nad yw gwyddbwyll yn gamp am nad oes yna ddigon o "weithgarwch corfforol".

Mewn ymateb i lythyr gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon, dywedodd Ellen Todd fod gwyddbwyll yn weithgaredd cystadleuol sy’n gofyn am lefel uchel o sgil, ond bod y sgiliau hynny’n ymwneud yn bennaf â gallu gwybyddol yn hytrach na gallu corfforol.

Daw’r ymateb ar ôl i’r pwyllgor dderbyn "nifer fawr" o ymatebion i’w ymgynghoriad gan Undeb Gwyddbwyll Cymru, unigolion a chlybiau, a oedd yn galw am gydnabod gwyddbwyll yn gamp swyddogol neu’n "gamp i’r meddwl".

Yn ei lythyr at Chwaraeon Cymru, dywedodd y Pwyllgor y byddai cydnabyddiaeth swyddogol yn adlewyrchu poblogrwydd y gêm yng Nghymru, yn ogystal â’i manteision addysgol a chymdeithasol.

Roedd yr ymatebion hefyd yn dadlau y gallai cydnabyddiaeth arwain at fwy o gymorth a chyllid, a chreu llinellau atebolrwydd clir.

Cafodd sylw ei dynnu hefyd at y ffaith bod gwyddbwyll yn cael ei ddosbarthu’n gamp mewn nifer o wledydd Ewropeaidd.

'Ffitrwydd corfforol'

Dywedodd Ms Todd fod Chwaraeon Cymru yn cydnabod "y gwerth y mae gwyddbwyll yn ei gyfrannu at nifer o unigolion a chymunedau ledled Cymru", yn ogystal â’r manteision addysgol, cymdeithasol a datblygiadol sy’n gysylltiedig â chwarae’r gêm.

Ond dywedodd mai’r prif rwystr i gydnabod gwyddbwyll yn swyddogol fel camp yw’r diffiniad o chwaraeon sy’n cael ei ddefnyddio yn y broses gydnabod.

Mae’n rhaid i weithgareddau sy’n gwneud cais am gydnabyddiaeth fodloni diffiniad Siarter Chwaraeon Ewrop Cyngor Ewrop, meddai.

Yn ôl y diffiniad, mae chwaraeon yn "fathau o weithgarwch corfforol sydd, drwy gymryd rhan yn anffurfiol neu mewn modd trefnus, yn anelu at fynegi neu wella ffitrwydd corfforol a lles meddyliol, meithrin perthnasoedd cymdeithasol neu sicrhau canlyniadau mewn cystadlaethau ar bob lefel".

Yn ei llythyr, dywedodd Ms Todd: "Er bod symudiadau corfforol yn rhan o chwarae’r gêm, meddwl strategol, dadansoddi a gwneud penderfyniadau’r cyfranogwyr, yn hytrach na’r gweithredoedd corfforol eu hunain, sy’n penderfynu'r canlyniad."

Ychwanegodd fod gwyddbwyll yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn "gêm feddwl gystadleuol" yn hytrach na champ yn yr ystyr draddodiadol, ac y byddai felly’n "annhebygol o gael cydnabyddiaeth pe bai cais yn cael ei gyflwyno".

Roedd y Pwyllgor hefyd wedi gofyn i Chwaraeon Cymru am y broses ar gyfer cydnabod campau a’r manteision posibl o wneud hynny.

Ond pwysleisiodd Ms Todd nad yw cydnabyddiaeth swyddogol yn gwarantu cyllid, gan egluro nad yw cefnogaeth ariannol yn cael ei rhoi’n awtomatig i weithgareddau na chyrff llywodraethu sy’n cael statws cydnabyddedig.

Er hynny, dywedodd fod cynrychiolwyr gwyddbwyll yn rhydd i gyflwyno cais ffurfiol os ydynt yn credu bod y gêm yn bodloni’r meini prawf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.