Deallusrwydd artiffisial i helpu i ganfod canser y fron yn gynnar
Mae disgwyl i gannoedd o filoedd o fenywod yn Lloegr gael gwahoddiad i gymryd rhan mewn treialon i weld a all deallusrwydd artiffisial helpu i ganfod canser y fron yn gynnar.
Yn ôl GIG Lloegr, mae disgwyl i tua 700,000 o fenywod gymryd rhan yn yr astudiaeth dros y tair blynedd nesaf.
Bydd y dechnoleg yn helpu arbenigwyr i adolygu delweddau sy'n cael eu cymryd fel rhan o raglen sgrinio'r GIG.
Bydd menywod yn Lloegr yn dal i gael cynnig sgrinio fel arfer, ond byddant hefyd yn cael gwybodaeth am y treialon a'r cyfle i ddewis peidio â chymryd rhan.
Mae'r rhaglen sgrinio yn golygu bod menywod rhwng 50 a 71 oed yn cael cynnig mamogram bob tair blynedd.
Sgan pelydr-X o'r bronnau yw mamogram.
Ar hyn o bryd, mae dau arbenigwr yn edrych ar y delweddau. Ond y bwriad yw y bydd defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial yn rhyddhau un o'r meddygon i wneud gwaith arall.
Y gobaith yw y bydd hefyd yn helpu i leihau rhestrau aros.
'Potensial anferth'
Y bwriad hefyd yw y bydd y dechnoleg yn gallu canfod canser a allai fod yn rhy fach i'w weld neu ei deimlo yn y fron.
Ym Mhrydain, mae tua 59,000 o achosion o ganser y fron yn cael eu diagnosio bob blwyddyn.
Mae'r arbenigwyr yn pwysleisio y bydd pob penderfyniad clinigol yn parhau i gael ei wneud gan staff y GIG.
Prifysgol Warwick, Prifysgol Caergrawnt a Sefydliad GIG Ysbytai Prifysgol Caergrawnt sy'n arwain yr astudiaeth gwerth £10 miliwn.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Yvette Cooper: "Os bydd hyn yn llwyddiannus, fe allai'r dechnoleg hon helpu menywod i gael diagnosis o ganser y fron a dechrau triniaeth yn llawer cynt, gan roi'r cyfle gorau iddyn nhw wella.
Ychwanegodd fod gan ddeallusrwydd artiffisial "botensial anferth", ond bod angen "mesurau diogelu priodol i wneud yn siŵr ein bod ni'n ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol i wella triniaethau ac ymchwil".