Manceinion: Person yn yr ysbyty ar ôl i ‘sylwedd anhysbys’ orfodi miloedd i adael cyngerdd

Cyngerdd Manceinion

Mae un person wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ôl i “sylwedd anhysbys” gael ei ryddhau ymhlith y dorf yn ystod cyngerdd yn arena Co-op Live ym Manceinion.

Dywedodd Heddlu Manceinion Fwyaf eu bod wedi datgan digwyddiad o bwys ychydig ar ôl 10pm nos Sul.

Roedd yr heddlu wedi cael gwybod bod sylwedd anhysbys wedi effeithio ar bobl yn y dorf yng nghyngerdd y rapiwr Americanaidd Don Toliver.

I ddechrau, roedd yr heddlu’n credu mai nwy dagrau oedd y sylwedd, medden nhw.

Roedd fideos a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol fel petaen nhw’n dangos pobl yn pesychu ac yn gorchuddio eu cegau wrth adael y cyngerdd.

Mewn datganiad ychydig ar ôl 2am ddydd Llun, dywedodd yr heddlu fod pawb wedi gadael y cyngerdd yn ddiogel. Fe ddywedon nhw hefyd fod sawl person yn cael eu hasesu yn y fan a’r lle i weld a oedd y sylwedd wedi effeithio arnyn nhw.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd-orllewin Lloegr fod staff meddygol wedi asesu mwy na 50 o bobl.

Roedd rhai wedi sôn am “symptomau oedd yn effeithio ar eu llygaid a’u hanadlu”.

“Mae gwaith dadhalogi yn mynd rhagddo fel rhagofal ac mae un claf wedi cael ei gludo i Ysbyty Brenhinol Manceinion i gael asesiad pellach,” meddai’r gwasanaeth ambiwlans mewn datganiad.

“Fe wnaethon ni anfon sawl criw brys, gan gynnwys ein Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus, i helpu i asesu a thrin pobl yn ddiogel yn y fan a’r lle.

“Dylai unrhyw un oedd yn y digwyddiad heno ac sydd wedi sylwi ar sgil-effeithiau neu wedi mynd yn sâl ers hynny geisio cyngor meddygol.”

‘Ymateb diogel’

Dywedodd Steph Parker, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Manceinion Fwyaf, fod mwy na 12,000 o bobl wedi cael eu tywys allan o’r cyngerdd yn ddiogel.

“Rydyn ni’n cynghori unrhyw un sydd wedi gadael y digwyddiad ac sydd wedi mynd yn sâl ers hynny i fynd i’w hysbyty lleol,” meddai.

“Rydyn ni’n deall y pryder y bydd y digwyddiad hwn wedi’i achosi, yn enwedig i’r rhai oedd ag anwyliaid yn yr arena neithiwr.

“Hoffen ni ddiolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni ddelio â’r sefyllfa.

“Roedd mwy na 12,000 o bobl yn y cyngerdd ac fe gawson nhw eu tywys allan o’r arena’n ddiogel er mwyn iddyn nhw allu mynd adref.”

Ychwanegodd: “Drwy ddatgan digwyddiad o bwys, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod y gwasanaethau brys a’r asiantaethau sy’n gweithio gyda ni yn gallu cydweithio’n gyflym ac yn effeithiol i drefnu ymateb diogel.

“Fe fyddwn ni nawr yn dechrau ymchwilio i gael gwybod yn union beth oedd y sylwedd a sut y digwyddodd hyn.”

Dywedodd Co-op Live mewn datganiad fod rheolwyr yr arena’n gweithio gyda’r heddlu i ganfod achos y digwyddiad.

“Ar ôl digwyddiad ymhlith y dorf yn y sioe neithiwr, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Heddlu Manceinion Fwyaf i ganfod yr achos a chymryd y camau priodol,” meddai’r datganiad.

“Diogelwch pawb sy’n ymweld â Co-op Live yw ein blaenoriaeth o hyd, a byddwn ni’n rhannu rhagor o wybodaeth ar ôl cael y wybodaeth ddiweddaraf gan yr heddlu.”

Mae disgwyl i’r gantores Americanaidd Phoebe Bridgers berfformio yn Co-op Live nos Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.