Daniel Evans yn ennill y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod CFfI Cymru 2026
Mae Daniel Evans o CFfI Pontsiân wedi ennill y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod CFfI Cymru 2026.
Daniel yw'r ail berson erioed i ennill y ddwy brif wobr lenyddol yn yr un Eisteddfod.
Cafodd ei gyhoeddi'n enillydd yn ystod seremoni ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid, nos Sadwrn.
Mae Daniel yn dod o Horeb ger Llandysul, ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Aberbanc ac yna yn Ysgol Bro Teifi.
Mae wedi bod yn aelod brwd o'r mudiad ers naw mlynedd, ac ef yw ysgrifennydd CFfI Pontsiân eleni.
Ceredigion sydd wedi cynnal yr Eisteddfod eleni, gyda'r Gadair yn cael ei chyflwyno am y gerdd orau ar y thema 'Bwlch' neu 'Bylchau', a'r Goron am y darn gorau o ryddiaith.
'Delweddau cryfion'
Y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan oedd beirniad cystadleuaeth y Gadair, a Luned Mair oedd yn beirniadu cystadleuaeth y Goron.
Yn ei feirniadaeth, dywedodd Gwenallt Llwyd Ifan fod dehongliadau'r 12 bardd o'r thema yn amrywiol, ond bod addewid ym mhob ymgais.
Fe ddewisodd gerdd dan y ffugenw 'Jac y Do' i'r brig, gan ei disgrifio fel cerdd ar fesur rhydd gyda delweddau cryfion o lan y môr.
Yn ôl y beirniad, roedd amwysedd y gerdd yn ychwanegu ati, gan ddangos dawn y bardd i weld ystyr ddyfnach mewn pethau bach bob dydd.
Wrth feirniadu cystadleuaeth y Goron, dywedodd Luned Mair ei bod yn teimlo ei bod "mewn dwylo saff gydag awdur sy'n medru creu awyrgylch a chyflwyno cymeriadau mewn ychydig frawddegau".
Yr efeilliaid Bleddyn ac Owain Thomas, sy'n aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Felinfach, sydd wedi creu'r Gadair, tra bod Dylan ac Elen Bowen wedi creu'r Goron.