Arestio dyn 24 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae dyn 24 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr brynhawn Gwener.
Fe gafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i Heol y Bont-faen tua 15:55 wedi adroddiad am ddyn â gwaed ar ei ddillad.
Mae'r dyn 24 oed, sy'n dod o Dredŵr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn parhau yn nalfa'r heddlu.
Mae dyn 67 oed, sydd hefyd o Dredŵr, wedi cael ei gludo i'r ysbyty ac mae ei gyflwr yn ddifrifol.
Yn ôl yr heddlu, mae'r ddau ddyn yn adnabod ei gilydd ac nid ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd Heddlu De Cymru y bydd mwy o swyddogion yn bresennol yn ardal Tredŵr wrth i'r ymchwiliad barhau.