‘Angen gweithredu radical i fynd i’r afael ar ail gartrefi’

Newyddion S4C 25/09/2021

‘Angen gweithredu radical i fynd i’r afael ar ail gartrefi’

Mae degau o ymgyrchwyr ‘Hawl i Fyw Adref’ wedi gorymdeithio o Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn i Gaernarfon yn galw am weithredu ‘radical’ ar lefel lleol ac yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Mae ymgyrchwyr Hawl i Fyw Adref o’r farn nad oes digon wedi cael ei wneud am y sefyllfa ail gartrefi yng Ngwynedd, a hynny flwyddyn ers iddynt orymdeithio am y tro cyntaf.

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod yr “honiad di-sail” nad yw’r Cyngor yn gweithredu ar frys ar y mater.

Mae’r ymgyrchwyr yn galw am system gynllunio sy’n gwneud hi’n anodd troi tai preswyl yn dai haf, yng nghyd a chodi trethi tir sylweddol ar ail dai.

‘Dim byd wedi cael ei wneud’

Dywedodd Rhys Tudur, arweinydd yr ymgyrch: “Da ni’n cael ein cico allan o’n bro dros nos, mae prisiau tai wedi saethu fyny ers tro byd bellach.

“Da ni wedi cerdded blwyddyn ddiwethaf yn galw am yr un fath, sef hawl i fyw adref a bod angen i’r llywodraeth weithredu ar frys. Does ‘na ddim byd wedi cael ei wneud yn y cyfamser.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod y broses i adolygu cynlluniau wedi cychwyn yn barod.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi amlinellu mesurau i fynd i’r afael â’r sefyllfa, ond yn ôl yr ymgyrchwyr dydi'r rheini ddim digon radical yn wyneb yn argyfwng. 

Yn ôl un ymgyrchydd, mae’r argyfwng yn “dorcalonnus”.

“Mae gennai deulu sy’n dioddef oherwydd yr argyfwng, ac mae o mor rhwystredig ac mae o mor dorcalonnus  bod ni wedi do di ffasiwn sefyllfa 'da ni yn ar hyn o bryd, mae o yn argyfwng.”

“Mae’n rhaid i’r cyngor ddeffro o’i thrwmgwsg, mae’n rhaid iddyn nhw neud rhywbeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.