Ffyrdd yn ailagor wedi ‘digwyddiad cemegol’ yn Wrecsam

Llun: Google Maps
Aubery Way - Wrecsam

Mae’r gwasanaethau brys wedi gorffen eu gwaith ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, ar ôl ymateb i’r hyn oedd yn cael ei drin fel 'digwyddiad cemegol'.

Mae cylch diogelwch o 500 metr o amgylch Abenbury Way wedi’i godi, ac mae ffyrdd cyfagos wedi ailagor.

Mewn diweddariad am 06:30 fore Sadwrn, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod busnesau a gafodd eu gwacáu fel rhagofal bellach yn gallu dychwelyd i’w safleoedd.

“Nid oes unrhyw risg i’r cyhoedd ehangach,” meddai’r gwasanaeth.

“Fodd bynnag, rydym yn gofyn i bobl barhau i osgoi’r ardal gyfagos tra bo’r gwaith adfer yn parhau.”

Nos Wener, roedd y gwasanaeth wedi cadarnhau bod criwiau’n ymateb i’r hyn oedd yn cael ei drin fel digwyddiad cemegol, gyda chylch diogelwch yn ymestyn hyd at 500 metr o amgylch Ffordd Abenbury.

Roedd ardaloedd o fewn y cylch wedi’u gwagio, ac roedd trigolion cyfagos wedi cael eu cynghori i gadw eu ffenestri a’u drysau ar gau.

Roedd sawl peiriant tân, uned deunyddiau peryglus ac uned diogelu’r amgylchedd yn rhan o’r ymateb, ynghyd â’r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a Chyngor Wrecsam.

Yn ôl diweddariad fore Sadwrn, roedd profion ar y safle wedi galluogi'r penderfyniad i godi’r cylch diogelwch, yn dilyn ymateb gan nifer o asiantaethau drwy gydol y nos.

Mae gweithredwyr y safle bellach wedi cymryd rheolaeth o’r safle ac yn gyfrifol am gael gwared ar y dŵr oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Maen nhw’n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i leihau unrhyw effaith bosibl ar yr amgylchedd.

Dywedodd y gwasanaeth y gallai pobl yn yr ardal gyfagos sylwi ar arogl, ond nad oedd hyn yn cael ei ystyried yn risg i ddiogelwch y cyhoedd.

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.