'O fewn deuddydd o farw': Angharad Mair yn diolch i'r Gwasanaeth Iechyd am achub ei bywyd

'O fewn deuddydd o farw': Angharad Mair yn diolch i'r Gwasanaeth Iechyd am achub ei bywyd

Mae'r gyflwynwraig Angharad Mair wedi trafod sut yr oedd hi o fewn deuddydd i farw ar ôl dioddef cyflwr difrifol ar ei choluddyn.

Wrth sgwrsio ag Elin Fflur ar raglen Sgwrs Dan y Lloer S4C, fe wnaeth Angharad drafod y cyfnod pan gafodd lawdriniaeth frys wedi i'w choluddyn droelli tua dwy flynedd yn ôl.

Yn ystod y sgwrs, fe wnaeth Elin gyfeirio at feddyg yn dweud wrth Angharad ei bod o fewn deuddydd i farw.

Roedd Angharad wedi bod yn hyfforddi'n galed gyda'i chlwb rhedeg ar nos Fawrth cyn deffro mewn poen difrifol yn ystod y nos.

Er iddi gael ei hanfon adref o'r ysbyty i ddechrau, dywedodd ei bod yn ddiolchgar i'r gwasanaeth iechyd am achub ei bywyd.

Image
Angharad Mair Sgwrs dan y Lloer.

'Fel tase lori wedi mynd drosta i'

Wrth drafod y noson y dechreuodd deimlo'n wael, dywedodd Angharad: "Nes i ddeffro y noson honno mewn poen, yn teimlo fel tasa 'na lori wedi mynd drosta i."

Doedd hi ddim yn gwybod beth oedd yn bod, gan ddweud iddi feddwl ar un adeg ei bod yn cael trawiad.

Fe wnaeth ffonio 111, ond penderfynodd fynd i'r ysbyty mewn tacsi yn hytrach nag aros am ambiwlans.

Dywedodd iddi dreulio bron i 11 awr yn yr adran achosion brys, cyn cael sgan uwchsain a chael gwybod nad oedd dim byd o'i le.

"A wedyn wnaeth y doctor alw fi mewn a gweud, 'Wel, doedd dim byd yn bod.'

"A es i gartre."

Ond roedd hi'n dal mewn poen y diwrnod canlynol, ac fe wnaeth gysylltu â'i meddyg teulu.

Fe wnaeth y meddyg drefnu iddi gael sgan CT yn yr ysbyty, a ddatgelodd fod ei choluddyn wedi troelli.

Yn ôl Angharad, fe wnaeth meddyg ddweud wrthi fod angen llawdriniaeth arni ar unwaith.

Esboniodd fod y cyflwr yn amharu ar y cyflenwad gwaed, gan achosi i organau ddechrau cau lawr.

"O fewn dwy awr, o'n i wedi cael llawdriniaeth," meddai.

Dywedodd fod meddygon wedi ei rhybuddio bod posibilrwydd na fyddai'n goroesi'r llawdriniaeth, ac y gallai fod angen stoma arni.

Image
Angharad Mair - Newyddion
Mae Angharad Mair wedi bod yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C ers dros pedwar degawd.

Roedd rhaid iddi lofnodi ffurflen ganiatâd cyn mynd i gael y llawdriniaeth.

Yn ôl Angharad, fe wnaeth y meddyg a oedd wedi ei hanfon adref o'r ysbyty y diwrnod cynt ddod i'w gweld ac ymddiheuro iddi.

Er gwaethaf y profiad, dywedodd ei bod yn ddiolchgar i'r gwasanaeth iechyd am achub ei bywyd.

"Mae pethau'n digwydd mewn bywyd a mae'n rhaid i ti dderbyn nhw," meddai.

Dychwelyd i redeg ar ôl 15 mlynedd

Yn ogystal â'i gyrfa fel cyflwynydd teledu, mae Angharad wedi cael llwyddiant ym myd athletau, gan gynrychioli Prydain mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Dechreuodd redeg yn ei thridegau, gan gwblhau Marathon Efrog Newydd mewn tair awr a 29 munud, cyn mynd ymlaen i redeg marathon mewn dwy awr a 45 munud.

Fe wnaeth hefyd hyfforddi yn Kenya ac ym mynyddoedd y Pyrenees, gan dreulio amser yng nghwmni rhai o athletwyr gorau'r byd.

Ond daeth ergyd fawr pan gafodd doriad straen i asgwrn cyn Gemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, gan ei hatal rhag cystadlu.

Image
Angharad Mari

Dywedodd Angharad ei bod wedi bod yn un o'r ffefrynnau i ennill medal aur, cyn cael gwybod na fyddai'n gallu cymryd rhan.

"Roedd e mor greulon. O'n i'n methu credu'r peth," meddai.

Ar ôl cael ei dwy ferch, Tanwen ac Efa, fe wnaeth roi'r gorau i redeg am o leiaf 15 mlynedd, gan ddweud nad oedd hi hyd yn oed wedi gwisgo esgidiau rhedeg yn ystod y cyfnod hwnnw.

Roedd y siom o fethu â chystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad wedi bod yn ormod iddi, ac roedd yn teimlo ei bod wedi gadael y rhan honno o'i bywyd ar ôl.

Ond fe wnaeth ddychwelyd i'r gamp ar ôl penderfynu cymryd rhan mewn ras 10 cilometr yn Llanelli gyda chydweithwyr.

Dywedodd iddi gael ei denu'n ôl at redeg, gan ddechrau cystadlu eto a thorri record yn y categori dros 55 oed, cyn dioddef yr argyfwng iechyd.

Erbyn hyn, mae Angharad yn dal yn awyddus i barhau i redeg wrth iddi fynd yn hŷn.

Gan gyfeirio at redwraig dros 80 oed sy'n dal i gystadlu mewn rasys, dywedodd ei bod yn gobeithio cael yr un uchelgais pan fydd hi'r oedran hwnnw.

"A mewn bywyd mae'n rhaid i ti gael yr uchelgais dal yna," meddai.

"Fi'n meddwl bod e'n bwysig hefyd bod ni'n byw'n ifanc beth bynnag yw oedran ni."

Mae Sgwrs dan y Lloer: Angharad Mair sef fersiwn estynedig o’r rhaglen ar gael yn ddigidol nawr gyda fersiwn llinol i'w gweld ar S4C Tachwedd 30 am 20:00. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.