Hybiau iechyd: A yw menywod yn cael y gofal sydd wedi’i addo iddynt?

Hybiau iechyd: A yw menywod yn cael y gofal sydd wedi’i addo iddynt?

Mae poen difrifol wedi bod yn rhan o fywyd Lowri Shepstone ers iddi ddechrau ei mislif yn 13 oed.

Yn ei swydd gyntaf ar ôl gadael yr ysgol, byddai ei chydweithwyr yn gwybod ei bod ar ei mislif pan fyddai’n rhaid iddi ei adael ei chownter yn y banc a chyrlio i fyny ar y llawr yng nghefn yr adeilad am gyfnodau.

“Roedd y boen o waelod fy asennau i lawr at fy ngliniau,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Doedd dim un rhan o ganol fy nghorff nad oedd yn brifo.”

Fe wnaeth gymryd 17 mlynedd i Lowri, 40 oed, gael diagnosis o endometriosis.

Erbyn hyn mae hi'n dweud bod hwb iechyd menywod Powys wedi ei helpu i hunanatgyfeirio at nyrs endometriosis a chael ffisiotherapi pelfig. 

Mae'n dweud bod y model digidol yn gweithio'n dda mewn ardal wledig fel Powys, ac mae hi wedi annog menywod eraill i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Ond dim ond un nyrs endometriosis sydd ar gael, ac nid oes apwyntiadau pan fydd hi ar wyliau neu'n sâl.

I Lowri, mae'r hwb wedi agor drws at gymorth - ond mae'r ddarpariaeth yn fregus.

Addewid o ofal gwell

Mae hybiau iechyd menywod yn rhan o Gynllun Iechyd Menywod Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024. 

Nod y cynllun yw gwella gofal iechyd menywod, sicrhau bod eu symptomau'n cael eu cymryd o ddifrif a lleihau'r anghydraddoldebau sy'n effeithio ar eu hiechyd.

Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru fod hwb wedi'i sefydlu ym mhob un o saith ardal bwrdd iechyd Cymru.

Ond nid yw'r hybiau i gyd yn cynnig yr un gwasanaethau nac yn gweithredu yn yr un ffordd. 

Mae rhai'n cynnig clinigau wyneb yn wyneb, tra bod eraill yn gweithredu ar-lein i roi gwybodaeth a chyfeirio menywod at wasanaethau.

Mae'r amrywiaeth yn golygu bod profiad menyw yn gallu dibynnu ar ble mae'n byw - gyda bylchau yn y ddarpariaeth mewn rhai ardaloedd.

Daeth cyfnod peilot hwb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Llandudno i ben bythefnos ar ôl cyhoeddiad y cyn-Brif Weinidog, Eluned Morgan, ym mis Mawrth. Dywedodd y bwrdd iechyd ym mis Gorffennaf nad oedd y gwasanaeth yn gweithredu a'i fod yn cael ei werthuso.

Image
Eluned Morgan
Fe wnaeth Eluned Morgan gyhoeddi ym mis Mawrth fod hwb iechyd menywod wedi'i sefydlu ym mhob bwrdd iechyd

Pan ofynnodd Newyddion S4C a fyddai'r hwb yn parhau, dywedodd Betsi Cadwaladr mai datganiad mis Gorffennaf oedd y diweddariad diweddaraf.

Roedd hwb peilot arall yn Aberystwyth, o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ym mis Mehefin 2026, dywedodd y bwrdd ei fod yn disgwyl ailsefydlu'r gwasanaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

Ond nododd adroddiad i'r bwrdd ym mis Medi nad oedd rhwydwaith ehangach o hybiau wedi'i sefydlu eto.

Mewn ardaloedd eraill, mae'r modelau'n amrywio: mae hybiau Powys, Abertawe ac Aneurin Bevan ar-lein, tra bod Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb, gyda'r ddarpariaeth yn y brifddinas yn canolbwyntio ar y menopos.

Dywedodd Aneurin Bevan wrth Newyddion S4C eu bod yn edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu heb wyneb yn wyneb yng Ngwent hefyd.

‘Doedd neb wedi dweud wrtha i amdano’

I Angela Moreton o Gas-gwent, y broblem yw nad yw menywod bob amser yn gwybod pa gymorth sydd ar gael.

Mae Angela wedi cael trafferthion gyda mislif trwm a phoenus ers iddi ddechrau ei mislif yn 12 oed. 

Mae ganddi endometriosis ac adenomyosis, ac mae'n dweud bod yr ail gyflwr heb gael ei ganfod gan y GIG.

Dros cyfnod o 20 mlynedd, mae hi'n dweud iddi deimlo nad oedd gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwrando arni nac yn cymryd ei phrofiad o ddifrif. 

Roedd yn gwneud ei hymchwil ei hun ac yn dychwelyd at ei gynaecolegydd gyda chwestiynau, ond dywedodd ei bod yn cael ei diystyru dro ar ôl tro.

Yn y pen draw fe aeth yn breifat i gael gofal, gan dalu £10,000 am hysterectomi i geisio lleddfu ei symptomau.

Mae'n amcangyfrif ei bod wedi gwario rhwng £15,000 a £20,000 ar ofal iechyd preifat dros y blynyddoedd.

Ond dywedodd fod cael cymorth gan nyrs endometriosis y GIG wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddi.

"Dyma'r tro cyntaf i rywun wrando arna i o ddifri a gwneud i mi deimlo fy mod i'n cyfrif," meddai.

Er hynny, mae Angela yn dweud nad oedd hi'n gwybod bod hwb iechyd menywod yn ei hardal.

"Doedd neb erioed wedi dweud wrtha i amdano, na'i esbonio i mi, a dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth yn cael ei hysbysebu yn unman," meddai.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei fod yn hyrwyddo ei hwb iechyd menywod digidol drwy'r cyfryngau cymdeithasol, y wasg leol a'i dimau gofal sylfaenol ac ymgysylltu cymunedol. Ychwanegodd ei fod yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ymhellach.

Ond mae'r bwrdd iechyd hefyd yn cydnabod bod y galw am ei nyrs endometriosis yn fwy na'r capasiti, gan arwain at amseroedd aros hirach.

Anghysondeb a bylchau yn y ddarpariaeth

Mae pryderon Lowri ac Angela yn cael eu hadleisio gan Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW), sy'n ymgyrchu dros wella gofal iechyd menywod.

Mae'r sefydliad yn dweud bod rhai o'i haelodau'n ansicr ynghylch beth mae'r hybiau'n ei gynnig a sut i gael mynediad atynt. 

Mae hefyd yn pryderu bod y pwyslais mewn rhai ardaloedd ar y menopos ac atal cenhedlu, heb ddigon o sylw i gyflyrau hirdymor fel endometriosis, Syndrom Metabolaidd Ofarïaidd Polyendocrinaidd (PMOS) ac anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD).

Mae FTWW yn dweud bod ei haelodau eisiau gweld safon sylfaenol o wasanaethau ym mhob ardal, gan gynnwys mynediad at nyrsys arbenigol, profion diagnostig, ffisiotherapi pelfig a chymorth iechyd meddwl. 

Mae'r sefydliad hefyd yn galw am fwy o gyfranogiad gan fenywod wrth gynllunio a gwerthuso'r gwasanaethau.

Image
Lowri Shepstone
Mae Lowri yn gwirfoddoli gydag elusen Endometriosis UK

Mae Lowri'n dweud bod angen mwy o nyrsys arbenigol a ffisiotherapyddion pelfig, yn ogystal â llwybrau hunanatgyfeirio clir a chyson ledled Cymru. 

Mae hi hefyd am weld gwybodaeth ar-lein yn haws i'w deall, gyda mapiau sy'n dangos sut mae menywod yn gallu cael mynediad at wasanaethau.

I Angela, mae'n bwysig nad yw gwerthusiad yr hybiau'n edrych ar nifer y menywod sy'n eu defnyddio yn unig, ond hefyd ar faint sy'n gwybod eu bod yn bodoli.

"Mae menywod yn haeddu mwy nag ymdrechion symbolaidd," meddai. 

"Dw i'n credu bod angen newid go iawn."

Beth nesaf i'r hybiau?

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cryfhau Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru er mwyn lleihau oedi cyn cael diagnosis a thriniaeth, a sicrhau bod “lleisiau menywod yn cael eu clywed a bod eu poen yn cael ei gymryd o ddifrif”.

Dywedodd fod hybiau wedi’u sefydlu ym mhob bwrdd iechyd a’u bod wedi’u gwerthuso i weld beth sydd wedi gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella. 

Mae cyllid ychwanegol hefyd wedi’i ddarparu i gryfhau a safoni’r ddarpariaeth, gan ddefnyddio canllawiau’r Rhwydwaith Iechyd Menywod.

Ychwanegodd na ddylai’r hybiau “ddyblygu gwasanaethau sy’n bodoli eisoes”, ond y dylent adlewyrchu anghenion lleol a chysylltu gofal sylfaenol ac eilaidd.

Ond mae profiadau Lowri ac Angela yn dangos nad yw sefydlu hwb ynddo’i hun yn golygu bod menywod bob amser yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae Lowri wedi gallu defnyddio’r gwasanaeth, ond yn poeni am brinder staff arbenigol. Doedd Angela ddim hyd yn oed yn gwybod bod hwb ar gael yn ei hardal.

Mae’r ddwy’n galw, mewn ffyrdd gwahanol, am yr un peth: gwasanaethau hygyrch, gofal tosturiol a thriniaeth amserol - nid addewid yn unig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.