Cymru 'â hyder gwahanol' ar ôl curo Seland Newydd
Cymru 'â hyder gwahanol' ar ôl curo Seland Newydd
Mae capten tîm rygbi Cymru, Dewi Lake, yn dweud bod gan Gymru "hyder gwahanol" wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Awstralia nos Sadwrn, yn dilyn eu buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Seland Newydd.
Fe lwyddodd Cymru i guro'r Crysau Duon am y tro cyntaf ers 73 mlynedd y penwythnos diwethaf, gan ennill o 35-28 yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
Mae Lake yn credu bod newid ym meddylfryd y garfan wedi bod yn allweddol i'w llwyddiant diweddar.
"Mae ein sgiliau'n well, ac rwy'n credu ein bod ni'n dîm gwell, sy'n glod i Steve [Tandy] a'i hyfforddwyr," meddai.
"Rwy'n credu bod yr hyder yn wahanol hefyd, a bod ein meddylfryd wedi newid.
"Mae pawb wedi dod i mewn gyda llais a chred, ac rydyn ni'n herio ein gilydd i wella. Dyna sy'n helpu grŵp i ddatblygu'n gyflym."
Er gwaethaf y dathliadau wedi'r fuddugoliaeth, mae'r prif hyfforddwr Steve Tandy wedi pwysleisio bod angen i'w chwaraewyr barhau i wella a dangos bod y canlyniad yn erbyn Seland Newydd yn fwy na buddugoliaeth unigol.
"Mae'n rhaid i ni ddal ati, ac mae gennym ni gêm enfawr yn erbyn Awstralia," meddai Tandy.
"Rydyn ni wedi codi ein safon un neu ddwy lefel arall, felly mae'n bwysig ein bod ni'n adeiladu ar hynny."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2123347740604481821/photo/1
Bydd Cymru'n croesawu'r Wallabies i Gaerdydd nos Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 20:10, yng ngêm olaf cyfnod cynghrair Pencampwriaeth y Cenhedloedd.
Mae Cymru wedi ennill tair o'u pum gêm yn y gystadleuaeth hyd yma, gan guro Ffiji, Japan a Seland Newydd, ond colli yn erbyn yr Ariannin a De Affrica.
Mae'r crysau cochion yn bumed yn nhabl hemisffer y gogledd, y tu ôl i'r Alban ar wahaniaeth pwyntiau.
Her Awstralia
Mae Awstralia'n cyrraedd Caerdydd ar ôl colli pedair gêm ryngwladol yn olynol, gan gynnwys colled o 15-12 yn erbyn yr Alban y penwythnos diwethaf.
Mae'r Wallabies wedi ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Cymru, ac nid yw Cymru wedi'u curo yng Nghaerdydd ers 2021.
Ond wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd, mae hyder newydd ymhlith carfan Cymru wrth iddyn nhw geisio gorffen cyfnod cynghrair Pencampwriaeth y Cenhedloedd ar nodyn cadarnhaol.
Bydd y gêm yn dechrau am 20:10 nos Sadwrn yn Stadiwm Principality, Caerdydd, gyda'r ornest yn cael ei darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.