Apêl gan yr heddlu ar bobl i beidio ciwio am betrol

25/09/2021
S4C

Mae Heddluoedd Cymru wedi apelio ar bobl i beidio heidio i orsafoedd petrol gan achosi ciwiau ar y ffyrdd.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol mae Heddlu Gogledd Cymru wedi annog y cyhoedd i beidio ffurfio ciwiau hir a allai o bosib “achosi risg o niwed i gerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd.”

Maen nhw hefyd wedi gofyn i’r cyhoedd ystyried caniatáu i gerbydau gwasanaeth brys ail-lenwi eu cerbydau gyda thanwydd yn gyntaf fel y gallant barhau i gadw'r gymuned yn ddiogel ac ymateb i argyfyngau.

Rhannodd Heddlu de Cymru neges debyg ddydd Gwener gan alw ar yrwyr i ddilyn canllawiau’r llywodraeth.

“Rydym yn ymwybodol o yrwyr yn ciwio mewn gorsafoedd petrol ledled de Cymru.”

“Mae cadw priffyrdd yn glir yn hanfodol ar gyfer y gwasanaethau brys a swyddogaethau gwasanaethau cyhoeddus eraill ac mae tarfu arnyn nhw’n peri risg i ddiogelwch y cyhoedd.

“Dilynwch ganllawiau’r llywodraeth ynghylch prynu tanwydd, os gwelwch yn dda.”

Daw hyn yn dilyn prinder gyrwyr lorïau sy’n cludo tanwydd i orsafoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.