Robert Pattinson yw'r James Bond newydd
Yr actor Robert Pattinson yw'r James Bond newydd.
Mae'n olynu Daniel Craig gan chwarae rhan un o gymeriadau mwyaf adnabyddus y byd ffilmiau.
Cadarnhaodd Amazon MGM Studios ddydd Llun mai'r actor 40 oed, sy'n fwyaf adnabyddus am ei ran yn Twilight a Batman, fydd y seithfed actor i chwarae'r ysbïwr Prydeinig 007 yn y gyfres swyddogol.
Bydd y ffilm newydd yn cael ei chyfarwyddo gan Denis Villeneuve, sydd wedi gweithio ar ffilmiau Dune, gyda Steven Knight, crëwr y gyfres Peaky Blinders, yn gyfrifol am y sgript.
Dyma fydd y ffilm James Bond gyntaf ers No Time to Die yn 2021, pan ddaeth cyfnod Daniel Craigi ben ar ôl pum ffilm.
Does dim dyddiad cyhoeddi na theitl wedi'u cadarnhau ar gyfer y ffilm newydd eto.
'Anrhydedd oes'
Mewn datganiad, dywedodd Pattinson ei fod wrth ei fodd o gael y cyfle i chwarae'r cymeriad eiconig.
"Mae James Bond yn un o'r cymeriadau mwyaf chwedlonol yn hanes y sinema, ac mae cael yr ymddiriedaeth i chwarae 007 yn anrhydedd oes.
"Alla i ddim bod yn fwy cyffrous am y bartneriaeth hon a'r gwaith sydd o'n blaenau gyda'r tîm gwych yma."
Ychwanegodd y cyfarwyddwr Denis Villeneuve ei fod yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio gyda Pattinson.
Pwy yw Robert Pattinson?
Cafodd Pattinson ei eni yn Llundain yn 1986, a daeth i amlygrwydd yn 19 oed wrth chwarae Cedric Diggory yn Harry Potter and the Goblet of Fire yn 2005.
Daeth yn seren ryngwladol drwy chwarae Edward Cullen yn y gyfres ffilmiau Twilight, cyn ymgymryd ag amrywiaeth o rolau mewn ffilmiau annibynnol a chynyrchiadau Hollywood.
Yn 2022, chwaraeodd Bruce Wayne yn Batman, ac mae hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau fel Tenet, The Lighthouse a Mickey 17.
Mae eisoes wedi gweithio gyda Denis Villeneuve ar Dune: Part Three, a bydd hefyd yn dychwelyd fel Batman yn Batman Part II.
Daeth y cyhoeddiad wedi blynyddoedd o ddyfalu ynghylch pwy fyddai'n olynu Daniel Craig, gyda nifer o actorion Prydeinig eraill wedi cael eu cysylltu â'r rôl.
Dyma fydd y ffilm Bond gyntaf ers i Amazon MGM Studios sicrhau rheolaeth greadigol dros y gyfres yn 2025.
Daeth y newid ar ôl i'r cynhyrchwyr Barbara Broccoli a Michael G. Wilson, oedd wedi goruchwylio'r gyfres am ddegawdau, gytuno ar bartneriaeth newydd gydag Amazon.
