Ymchwiliad brys i neges Russell Brand o'r carchar yn honni ei fod yn ddieuog
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud bod ymchwiliad brys yn cael ei gynnal i weld a wnaeth Russell Brand, sydd yn y carchar am droseddau rhyw, dorri'r rheolau drwy rannu neges yn honni ei fod yn ddieuog.
Darllenodd gwraig Brand, Laura Gallacher, neges gan ei gŵr mewn fideo a gafodd ei uwchlwytho i’w sianel YouTube.
Yn y neges, honnodd Brand: "Dydw i ddim yn euog o’r troseddau y cefais fy ngharcharu amdanynt."
Y gred yw bod carcharor yn torri’r rheolau os yw’n rhoi sylwadau i aelod o’r teulu gan wybod y byddant yn cael eu cyhoeddi.
Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog, Andy Burnham: "Mae hyn yn gwbl warthus, ac mae’n cael ei ymchwilio ar frys.
"Rydym yn disgwyl i gamau gael eu cymryd os yw wedi torri’r rheolau.
"Mae carcharorion wedi’u gwahardd yn llym rhag gwneud datganiadau sy’n achosi gofid i ddioddefwyr.
"Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol maent yn cael caniatâd i siarad â’r cyfryngau.
"Ni all carcharorion osgoi’r rheolau hyn drwy gael rhywun arall i gyhoeddi eu sylwadau."
'Sarhad'
Mae Russell Brand yn treulio dedfryd o 10 mlynedd a chwe mis yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o un cyhuddiad o dreisio a thri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Yn ei neges, dywedodd Brand ei fod wedi cael ei symud o garchar Wandsworth, carchar categori B yn ne-orllewin Llundain, i HMP Littlehey yng Nghaergrawnt, sef carchar categori C ar gyfer dynion sydd wedi’u cael yn euog o droseddau rhyw.
Wrth ddarllen y neges gan ei gŵr o lyfr nodiadau, dywedodd Ms Gallacher: "Fel y gwyddoch, dydw i ddim yn euog o’r troseddau y cefais fy ngharcharu amdanynt, felly mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd."
Ychwanegodd ei neges: "Rwyf wedi fy ngharcharu yn HMP Littlehey - ‘little’ fel bach, a ‘hey’ fel hei - rwyf yng ngharchar mwyaf Ewrop ar gyfer troseddwyr rhyw.
"Y newyddion da yw fy mod eisoes wedi gweld bod y staff yma yn gryf, yn garedig ac yn ymroddedig.
"Ac o ran fy nghyd-garcharorion, rwyf bellach yn gwybod nad wyf mewn sefyllfa i farnu neb.
"Dydw i ddim yn gwybod pa rai o’r dynion eraill yma sy’n ddieuog, ac mae’r rhai sydd yn bobl y bu farw Crist i’w hachub, yn union fel chi a fi.
"Gadewch i ni i gyd garu, gweddïo dros ein gilydd a maddau i’n gilydd, fel y maddeuodd Duw i ni."
Dywedodd Mia Latter, sy’n honni iddi gael ei threisio gan Brand pan oedd yn 16 oed ac sydd wedi ildio’i hawl i aros yn ddienw, fod ei neges yn "sarhad" ar ei ddioddefwyr. Cwestiynodd hefyd pam roedd YouTube wedi caniatáu i’r fideo gael ei rannu.
Dywedodd wrth The Jeremy Vine Show: "Roeddwn i mewn sioc bod YouTube wedi cyhoeddi’r fideo, oherwydd rwy’n teimlo bod ganddyn nhw ryw fath o gyfrifoldeb i beidio â chaniatáu i bethau fel hyn gael eu darlledu.
"Ac roedd yn sarhad ar yr holl fenywod a roddodd dystiolaeth yn yr achos llys, ac yn sarhad ar aelodau'r rheithgor a roddodd o’u hamser.
"Mae’n sarhad ar y system cyfiawnder troseddol."
