David Chadwick yn cael ei gadarnhau'n arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Mae David Chadwick wedi'i gadarnhau'n arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Mr Chadwick yw unig Aelod Seneddol y blaid yng Nghymru, ac mae'n cynrychioli etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.
Wrth amlinellu ei weledigaeth mewn araith yng Nghaerdydd brynhawn Llun, addawodd ddenu "cenhedlaeth newydd o arweinwyr" i'w blaid, a gwneud Cymru'n wlad "lawer mwy uchelgeisiol".
Nododd hefyd fod angen adfer atebolrwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Mae hefyd yn awyddus i ailadeiladu'r blaid yn rym gwleidyddol cadarn, meddai.
"Mae Cymru yn wlad sydd â photensial eithriadol, ond am gyfnod yn rhy hir, rydym yn brin o weledigaeth ac arweinyddiaeth wleidyddol," meddai.
"Rydw i eisiau troi Cymru yn genedl sy'n perfformio'n gryf, nid yr un sydd ar waelod tablau perfformiad.
"Mae angen i ni fod llawer mwy uchelgeisiol er mwyn tyfu'r economi, cefnogi busnesau a chreu cyfleoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
"Mae rhywbeth mawr o'i le pan fo' bobol ifainc yn gadael y wlad lle cawsant eu magu er mwyn llwyddo yn eu bywyd."
Nododd hefyd fod "dyddiau gwell eto i ddod" i Gymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Talcen caled
Mae David Chadwick yn olynu Jane Dodds, sy'n aelod o Senedd Cymru, ar ôl iddi hi gyhoeddi y byddai'n ildio'r awenau ar ôl bron i naw mlynedd yn y rôl.
Mae Mr Chadwick yn 35 oed ac fe gafodd ei ethol i Senedd San Steffan yn 2024.
Ef yw llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gymru yn San Steffan.
Mae’n wynebu talcen caled ar ôl i’w blaid ennill dim ond un sedd yn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai 2026, ac un sedd yng Nghymru yn etholiad cyffredinol 2024.
Mae Ms Dodds wedi dweud y bydd yn parhau fel Aelod o Senedd Cymru, gan ildio'r arweinyddiaeth yn unig.
