Adroddiad yn argymell lleihau Yswiriant Gwladol cyflogwyr i helpu pobl ifanc i gael gwaith
Fe ddylai cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar gyfer gweithwyr rhwng 21 a 24 gael eu lleihau’n raddol er mwyn annog busnesau i gynnig mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc.
Dyna un o’r argymhellion mewn adroddiad newydd fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Cyn-Ysgrifennydd Iechyd Llafur, Alan Milburn, yw awdur yr adroddiad.
Mae’r adolygiad yn argymell lleihau cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr dros gyfnod o bum mlynedd ar gyfer gweithwyr rhwng 21 a 24 oed, gan ddechrau gyda’r sector lletygarwch a manwerthu.
Bydd Milburn hefyd yn argymell dyblu’r trothwy enillion lle mae busnesau’n dechrau talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer gweithwyr yn y grŵp oedran hwn, o £5,000 i £10,000.
Mae’r adolygiad yn galw am ddiwygio’r system fudd-daliadau yn sylweddol er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Fe gododd y nifer hwnnw i dros filiwn eleni.
Mae Milburn wedi dweud mai un o’r argymhellion yw cyflwyno "gwarant gyfreithiol" i bobl ifanc gael cynnig gwaith, hyfforddiant neu gymorth i ddod o hyd i swydd.
Gallai pobl ifanc sy’n gwrthod derbyn y cynnig hwnnw golli eu budd-daliadau o bosib.
Er hynny, mae disgwyl i Milburn ddadlau nad oes pwrpas rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc os nad ydyn nhw wedyn yn gallu dod o hyd i waith.
Mae’n argymell y dylai’r newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ddod i rym “pan fydd yr amgylchiadau economaidd yn caniatáu hynny”.
'Moment dyngedfennol'
Cyn cyhoeddi’r adroddiad, mae’r Prif Weinidog, Andy Burnham, wedi disgrifio’r adolygiad fel “moment dyngedfennol”.
Ond nid yw wedi cadarnhau y bydd yn derbyn pob un o’r argymhellion.
Mewn erthygl yn The Guardian, dywedodd Burnham mai budd-daliadau ddylai fod y “dewis olaf, nid y man cychwyn” i bobl ifanc.
Fe ddywedodd hefyd y dylid rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn pobl ifanc “yn hytrach na’u targedu â thoriadau”.
Mae Ysgrifennydd Cysgodol Gwaith a Phensiynau’r Ceidwadwyr, Helen Whately, wedi dweud bod ei phlaid am haneru costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
Yn ôl Ms Whately, mae busnesau eisiau cyflogi pobl ifanc ond dydyn nhw ddim yn gallu “fforddio gwneud hynny erbyn hyn”. Mae’r "rheoliadau y mae’r Blaid Lafur wedi’u cyflwyno yn gwneud hynny’n anoddach" meddai.
Llun: Alan Milburn (chwith) ac Andy Burnham ym mis Gorffennaf- Temilade Adelaja/PA
