Siom ar ôl i fusnes teulu gael ei orfodi i gau dros hanner maes carafanau

Newyddion S4C 25/09/2021

Siom ar ôl i fusnes teulu gael ei orfodi i gau dros hanner maes carafanau

Mae teulu o Bontllyfni yng Ngwynedd yn cael eu gorfodi i gau dau draean o’u maes carafanau oherwydd y drefn gynllunio.

Yn ystod tymor prysur yr haf roedd maes carafanau Cae Clyd yn defnyddio tri chae i gynnig lle i ymwelwyr gael aros, ond wedi mis Hydref fydd dim ond dau gae o’r tri fydd ar gael fel safle gwersylla.

Mae cwestiynau yn cael eu gofyn ynglŷn â’r cymorth i fusnesau bach, fel meysydd carafanau sydd eisiau ehangu.

Yn ôl Eleri Hughes, perchennog maes carafanau Cae Clyd, roedd swyddogion cynllunio wedi gofyn iddynt ymgeisio ar gyfer trwydded.

“Mi ddoth y swyddogion yma, a dyma nhw’n gofyn ers faint oeddan ni’n rhedeg y lle, a dyma ni’n deud ers 2008, ac yn defnyddio’r tri chae ers 2008.

“A dyma nhw’n cynnig, pam ewch chi fynd am drwydded? Mi ddaru ni gasglu tystiolaeth at ei gilydd, ac mi roddwyd y cais i mewn.

“Blwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mi gafon ni wybod bod y cais wedi cael ei wrthod.”

Dywedodd Cyngor Gwynedd: “Cafodd y cais ei gwrthod ar y sail nad oedd tystiolaeth gadarn i brofi, ar gydbwysedd tebygolrwydd, fod y defnydd wedi ei weithredu am ddeng mlynedd neu fwy."

Mae Cyngor Gwynedd wedi gwrthod apêl Ms Hughes yn erbyn y penderfyniad, gan ddweud bod Cyngor Gwynedd yn gweithio'n unol â gofynion statudol y ddeddfwriaeth gynllunio.

Mae Ms Hughes yn galw am esboniad gan y Cyngor gan honni nad ydi Cae Clyd yn cael effaith negyddol.

“Does yna ddim byd yn negyddol am Cae Clyd. I rywun roi un rheswm pendant, cryf a chyfiawn i mi am gau Cae Clyd, mi wnaf. A mi wnai rhoi fy nwylo i fyny os oes ’na rywun yn pwyntio bys ac yn dweud bod y lle ma’n swnllyd ac yn friw i’r lygaid, mi wnaf.

“Ond ar y funud ’da ni’n marw i wybod pam bod isio cau dau gae yn Cae Clyd.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru ac eraill yn awgrymu bod gormod o rwystrau, gydag arafwch y drefn gynllunio dan y lach.

Yn ôl yr Ymgyngorydd cynllunio, Mark Roberts, mae’n broblem ar draws Cymru gyfan.

“Mae bob math o geisiadau yn cymryd hir, nid jyst yn y gogledd, ond trwy Gymru gyfan.

“Mae hynny yn codi cwestiwn wedyn, ydy pobl eisiau buddsoddi yng Nghymru? Ydy ein cymdeithasau gweldig ni yn cael chwarae teg?

“Ma’n rywbeth sydd yn mynd i wraidd Llywodraeth Cymru, a ma’n rywbeth dwi di godi efo nhw o’r blaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.