Cynghrair y Cenhedloedd: Ergyd i Gymru wrth golli yn erbyn Norwy

cymru

Mae Cymru wedi colli 3-1 yn erbyn Norwy yn Oslo yng Nghynghrair y Cenhedloedd, gan orffen ar waelod y grŵp gydag un gêm yn weddill o'r ymgyrch.

Hyd yn oed os yw Cymru yn curo Portiwgal nos Fawrth, fe fyddan nhw yn parhau ar waelod y grŵp.

Mae hynny oherwydd record Cymru yn erbyn Denmarc a Norwy, sydd â chwe phwynt yr un hyd yma.

Roedd Harry Wilson yn ôl yn y tîm am y tro cyntaf ers mis Mawrth, gyda'i gyd-chwaraewr yn Leeds United Joe Rodon hefyd yn dychwelyd. 

Fe wnaeth Karl Darlow ddychwelyd i'r tîm yn ogystal â Liam Cullen yng nghanol y cae, gyda Jordan James wedi'i anafu.

Fe wnaeth goliau gan Dan James a Neco Williams sicrhau triphwynt mewn buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Norwy yng Nghaerdydd ym mis Hydref - buddugoliaeth gyntaf erioed Cymru yng Nghynghrair A. 

Cyn y gêm, roedd Cymru yn y trydydd safle yn y grŵp gyda Norwy ar y gwaelod. 

Hanner cyntaf 

Roedd gan Norwy fantais hollbwysig wrth i'r chwiban cyntaf gael ei chwythu, a hynny drwy chwarae gartref mewn gêm hollbwysig i'r ddau dîm. 

Norwy oedd â'r meddiant yn y munudau cyntaf, gan basio'r bêl yn weddol gyfforddus ar y cae oedd yn llawn eira tan fore Gwener. 

Ond roedd Cymru yn gwasgu gan ei gwneud hi'n anodd i'r tîm cartref gyrraedd unrhyw safle bygythiol. 

Fe wnaeth Johnson a Koumas yn dda i helpu Cymru yn uwch i fyny'r cae, gyda Neco Williams yn croesi pêl gynnar i gyfeiriad y cwrt cosbi, ond roedd gormod o bŵer ar y croesiad yn anffodus. 

Roedd Norwy yn parhau i gael trafferth i ennill tir gydag amddiffyn Cymru yn gadarn a hyder tawel yn chwarae tîm Bellamy wedi 10 munud o chwarae. 

Daeth peniad hollbwysig gan Ben Davies ychydig funudau yn ddiweddarach wedi croesiad peryg gan Nusa, a Haaland yn barod i benio. 

Roedd siom ac ergyd wrth i Ethan Ampadu gael cerdyn melyn wedi tacl hwyr ar Wolfe, gan olygu y bydd yn methu'r gêm olaf o'r ymgyrch yn erbyn Portiwgal yng Nghaerdydd nos Fawrth.  

Image
wilson.jpg

Daeth cyfle gorau'r gêm i Gymru hyd yma wedi i Harry Wilson frasgamu i lawr y cae gan fwydo Dan James a wnaeth anelu'r bêl dros y gôl-geidwad, ond roedd yr ergyd oddi ar y targed. 

Roedd cyfle arall i James, ond fe aeth ei ergyd o fewn y cwrt cosbi ychydig heibio'r postyn.

Parhau yn ddi-sgôr oedd yr hanes wedi 30 munud, gyda Norwy yn dechrau hawlio'r meddiant a bygwth yn ymosodol.

Fe wnaeth Nusa chwipio'r bêl i mewn i'r cwrt cosbi i'r tîm cartref, gyda Darlow yn dod allan yn gryf i arbed y bêl.

Fe wnaeth James ganfod Williams o'r chwith i'r dde, gyda chyffyrddiad da gan Wilson cyn i James ei chroesi hi ar draws y gôl, ond doedd dim crys melyn yno i roi'r bêl yng nghefn y rhwyd. 

Dan James oedd yn parhau i fygwth i Gymru, gan orfodi arbediad cynta'r gêm gan Selvik. 

Parhau yn 0-0 oedd yr hanes ar ddiwedd y 45 munud. 

Ail hanner

Roedd Cymru yn ymosod o flaen y Wal Goch, gyda chic gornel gynnar yn dangos gobaith ymosodol ar ddechrau'r ail hanner. 

Daeth cyfle i wrth-ymosod i Norwy, gyda Nusa yn pasio i Ødegaard cyn i Haaland gael ei afael ar y bêl, ond roedd amddiffyn da gan dri chwaraewr Cymru yn ddigon i atal cawr Man City rhag cael unrhyw gyfle yn y cwrt cosbi.

Fe wnaeth Cullen rwystro ergyd hollbwysig gan Berge ychydig funudau yn ddiweddarach, gyda'r gêm yn parhau yn ddi-sgôr. 

Ond fe wnaeth eiliad o gam-gyfathrebu ddifetha'r gwaith da oedd wedi ei wneud hyd yn hyn gan Gymru, gyda Chymru yn methu â gwarchod cic gornel. 

Fe wnaeth Nusa ergydio gan ddarganfod cefn y rhwyd wedi cam-gyfathrebu rhwng Rodon a Darlow. Norwy 1-0 Cymru.

Image
cymru v norwy.jpg

Roedd hyder Norwy yn uwch erbyn hyn, gyda'r gôl yn gorfodi eilyddio a Mark Harris yn dod ymlaen ar gyfer Lewis Koumas. 

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ychydig funudau yn ddiweddarach, gyda Nusa yn canfod Haaland, a oedd yn anhunanol drwy groesi yn berffaith i Schjelderup, a oedd newydd ddod ymlaen i Norwy. Norwy 2-0 Cymru,

Roedd rhagor o eilyddio i  Gymru, gyda Connor Roberts, Rubin Colwill a David Brooks yn dod ymlaen.

Fe wnaeth Neco Williams adael y cae yn gloff, sydd yn bryder cyn y gêm hollbwysig yn erbyn Portiwgal ddydd Mawrth. 

Daeth llygedyn o obaith i Gymru wrth iddyn nhw barhau i ymosod wrth i'r gêm fynd ymlaen, ac Ampadu yn gorfodi arbediad campus gan Selvik wedi ergyd o du allan y cwrt cosbi. 

Roedd Cymru yn ôl yn y gêm wedi gôl unigol wych gan David Brooks, ac ychydig dros 10 munud i fynd. Norwy 2-1 Cymru. 

Roedd y Wal Goch yn annog Cymru i chwilio am yr ail gôl a chadw'r momentwm i fynd, a Chymru yn ceisio rheoli'r meddiant wrth i'r gêm dynnu at ei therfyn. 

Ond fe gafodd y tîm cartref gic o'r smotyn ym munudau ola'r hanner, gyda Roberts yn tynnu Schjelderup i lawr, a phwy arall ond Haaland yn sgorio trydedd gôl Norwy. Norwy 3-1 Cymru. 

Parhau yn 3-1 oedd hi ar ddiwedd y gêm, gyda'r canlyniad yn golygu fod Cymru bellach ar waelod y grŵp gyda thri phwynt. Mae Norwy erbyn hyn yn drydydd gyda chwe phwynt. 

Fe fydd Denmarc yn wynebu Portiwgal yn ddiweddarach nos Sadwrn, gyda Chymru yn wynebu Portiwgal yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng ngêm ola'r ymgyrch i dîm Craig Bellamy ddydd Mawrth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.