Newyddion S4C

O Afghanistan i Ganolfan Mileniwm Cymru: Y teulu ifanc wnaeth ddianc rhag y Taliban

ITV Cymru 25/09/2021
itv

Mae stori teulu a ffodd o Afghanistan i wneud bywyd newydd yng Nghaerdydd wedi cyrraedd y llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Yn 2000, gwnaeth mam Hamed Amiri araith yn mynnu rhyddid i ferched Afghanistan, gan wylltio arweinwyr lleol y Taliban.

Fe wnaeth y Taliban gyhoeddi gwarant i'w lladd.

Heb unrhyw ddewis ond rhedeg, cychwynnodd y teulu Amiri ar y daith hir allan o Afghanistan ar draws Ewrop cyn ymgartrefu yng Nghymru.

Image
ITV
Dywed Hamed os na fyddai'r teulu wedi dianc, byddai'i fam wedi’i llofruddio. Credit: ITV

Dywedodd Hamed: "Os na wnaethom ni wedi adael ein cartref, ni fyddai fy mam o gwmpas. Os na wnaethon ni adael ein cartref, ni fyddai fy mrawd, oedd yn dioddef o nam calon, wedi byw mor hir ag y gwnaeth.

"Dyna ystyr y gair ffoadur, dyna yw’r dewis olaf mae rhaid i chi gymryd am ddiogelwch chi'ch hun, eich teulu a'r cenedlaethau nesaf.

"Rwy'n gobeithio bydd y ddrama'n siarad am hynny ac yn dangos sut olwg sydd ar y siwrnai honno, ond hefyd pan ddewch chi i'r DU, pa heriau sydd gennych chi yn fewnol ac yn allanol."

Mae ‘The Boy With Two Hearts’ wedi’i addasu gan Phil Porter ar gyfer y llwyfan o’r llyfr (o’r un enw) gan Hamed Amiri.

Image
ITV
Mae ‘The Boy With Two Hearts’ wedi’i addasu gan Phil Porter ar gyfer y llwyfan o’r llyfr gan Hamed Amiri. Credit: ITV

Mae'n adrodd stori wir y teulu Amiri, a brawd hynaf Hamed, Hussein.

Gwnaeth nam calon Hussein wneud y daith i'r DU yn bwysicach fyth.

Roedd rhaid iddyn nhw gyrraedd y DU i gael yr help oedd angen arno. 

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: “Fe adroddodd Hamed ei stori wrthym yn gyntaf dros ddwy flynedd yn ôl ac roeddem yn meddwl, tybed sut, ac os, y gallem ei hadrodd ar y llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

"Roeddem yn gwybod bod angen cymryd gofal ac amser arno’r stori i sicrhau bod e’n cael ei adrodd fel oedd y teulu Amiri yn dymuno. 

"Mae'n stori am gariad, colled, teulu ac am daith anodd, gorfforol, emosiynol a bersonol.

"Mae hefyd yn daith a ddaeth â theulu i Gymru, sydd bellach yn gartref iddynt. Nid wyf yn credu gallwch chi ddim eich symud a'ch ysbrydoli ganddo."

Ychwanegodd Hamed: "Rwy'n gyffrous ac yn emosiynol iawn, nid yn unig i weld taith fy nheulu yn dod yn fyw ar y llwyfan, ond hefyd i ail-fyw'r momentau gwerthfawr  a gawsom ar hyd y ffordd."

Bydd yr addasiad llwyfan o ‘The Boy With Two Hearts’, sy'n cael ei gyfarwyddo gan Amit Sharma, yn cael ei berfformio yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru rhwng 1 - 23 Hydref 2021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.