Reform am benderfynu'r wythnos nesaf os bydd y blaid yn dychwelyd i’r Senedd
Fe fydd grŵp Reform UK ym Mae Caerdydd yn cwrdd yr wythnos nesaf i benderfynu os bydd y blaid yn dychwelyd i siarad yn y Senedd, meddai prif chwip y blaid.
Fe wnaeth y blaid gyhoeddi ddydd Mercher eu bod yn cynnal boicot o Senedd Cymru ar ôl i un o'i haelodau gael ei wahardd rhag siarad.
Cafodd Joe Martin, AS Reform UK, ei wahardd ddydd Mawrth ar ôl dweud bod pobl wyn o Brydain yn cael eu disodli.
Dywedodd Llŷr Powell wrth y BBC ddydd Gwener nad oedden nhw wedi penderfynu eto a oedden nhw am ddychwelyd i’r Senedd yr wythnos nesaf yn sgil gwaharddiad Joe Martin.
Roedd “pawb y tu ôl i’r ffordd roedden ni’n mynd i fynd” meddai, gan bwysleisio mai penderfyniad arweinydd y blaid Helen Jenner oedd cynnal y boicot.
“Mae yna double standards ac roedd pawb yn y grŵp y tu ôl i hyn.
“Mae’r grŵp yn cwrdd wythnos nesa’ a bydd y grŵp yn dewis. Choice y grŵp i wneud hyn, a bydd y grŵp yn dewis y ffordd ni’n mynd ymlaen.”
‘Croesi ffin’
Mae Llywydd Senedd Cymru, Huw Irranca-Davies wedi dweud y bydd Joe Martin yn cael dychwelyd i siarad yn y Siambr os yw’n ymddiheuro am ei sylwadau ac yn dangos ei fod yn deall ffiniau ymddygiad seneddol derbyniol.
Ond mewn darn barn ddydd Iau dywedodd Joe Martin na fyddai'n ymddiheuro.
Roedd diwylliant Prydeinig yn “well” ac roedd perygl i fewnfudwyr ddod â’u diwylliant nhw gyda nhw yn lle cymhathu, meddai.
“Rydw i wedi osgoi ei feirniadu [Huw Irranca-Davies] am benderfyniadau blaenorol allan o barch ato ef a’i swydd,” meddai.
“Ond mae’r penderfyniad hwn mor amlwg yn croesi ffin, yn ymyrryd mor ddifrifol â rhyddid mynegiant, ac mor amlwg yn benderfyniad anghywir, fel nad oes gennyf ddewis ond dweud fy marn.
“Mae angen trafodaethau i adnewyddu ein democratiaeth yn gyson a rhoi bywyd newydd iddi.
“Oherwydd natur y trafodaethau hynny, maen nhw’n siŵr o wthio ffiniau’r hyn sy’n gymdeithasol dderbyniol i’w ddweud. Pe baen nhw’n drafodaethau hawdd, fydden nhw ddim yn werth eu cael.”
‘Ni fyddwn yn ei alw i siarad’
Wrth gyhoeddi’r gwaharddiad ddydd Mawrth dywedodd Huw Irranca-Davies: “Rydym o’r farn bod cyfraniad Martin yn ystod y Datganiad Busnes yn bryfoclyd yn ddiangen ac yn fwriadol sarhaus.
“Er bod modd bob amser i godi materion polisi dilys ynghylch mewnfudo yn y Siambr hon, roedd ffocws y cyfraniad ar hil ac ethnigrwydd yn amlwg yn wahaniaethol, yn sarhaus ac yn tanseilio urddas y Senedd.
“Nid dyma’r tro cyntaf i’r aelod wthio’r ffiniau yn ei gyfraniadau, ac rwyf wedi ei rybuddio o’r blaen am ei ymddygiad.
“Hyd nes y byddaf yn cael arwydd clir bod yr aelod yn deall ffiniau ymddygiad seneddol derbyniol ac yn ymddiheuro i’r Siambr, ni fyddwn yn ei alw i siarad.”