Achos Neil Foden: Cwestiynau am atebolrwydd flwyddyn ar ôl adolygiad beirniadol

Cyngor Gwynedd Foden
Fis Tachwedd diwethaf, nododd yr Adolygiad Ymarfer Plant i achos Neil Foden dros 50 o "gyfleoedd a gollwyd", ond flwyddyn ers hynny, beth sydd wedi newid?
 
Ers cyhoeddi'r Adolygiad, mae cynghorau, ysgolion a chyrff cyhoeddus yn dweud eu bod wedi cryfhau'r ffordd maen nhw'n diogelu plant a phobl ifanc.
 
Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.
 
Dros y misoedd diwethaf, mae ymchwiliad gan Newyddion S4C wedi dod o hyd i wybodaeth nad oedd wedi'i chyhoeddi o'r blaen am sut wnaeth rhai sefydliadau ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, gan gynnwys adolygiadau mewnol, newidiadau i drefniadau diogelu a phenderfyniadau a wnaed yn dilyn ei gyhoeddi.
 
Cwestiynau'n parhau
 
Mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi tynnu sylw at y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno i gryfhau trefniadau diogelu ac i geisio atal methiannau tebyg yn y dyfodol. 
 
Mae'r Adolygiad Ymarfer Plant yn disgrifio degau o fethiannau. Ac er bod sawl sefydliad yn rhan o'r stori, Cyngor Gwynedd sy'n wynebu'r feirniadaeth fwyaf.
Image
adroddiad
 

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod wedi cwblhau wyth o'r naw argymhelliad ar gyfer cynghorau Cymru, ac wedi mynd ymhellach na'r gofynion oedd yn berthnasol iddyn nhw'n unig, gyda 55 cam gweithredu yn eu Cynllun Ymateb.

Maen nhw'n tynnu sylw at hyfforddiant arbenigol gyda'r NSPCC, Tîm Diogelu a Llesiant, ymweliadau diogelu blynyddol ym mhob ysgol, a hyfforddiant ychwanegol i bob cadeirydd ac aelod o'r corff llywodraethu sy'n gyfrifol am ddiogelu.

Dros y misoedd diwethaf, mae Newyddion S4C wedi bod yn gofyn pa gamau a gymerwyd mewn ymateb i rai o ganfyddiadau beirniadol yr adolygiad.

Rhybuddion

Roedd Cyngor Gwynedd, a rhai sefydliadau eraill wedi cael rhybuddion am ymddygiad Foden dro ar ôl tro. Pryderon nad oedd bob amser yn cael y sylw oedd angen.

Roedd llawer o gyfeiriadau yn yr Adolygiad Ymarfer Plant at brosesau a phenderfyniadau diogelu Cyngor Gwynedd, ac arweinyddiaeth Ysgol Friars, gan nodi nifer o gyfleoedd gafodd eu colli a sylwadau am "addasrwydd" rhai unigolion i "weithio gyda phlant".

Ar ffurf Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a cheisiadau'r wasg gofynnwyd a gafodd unrhyw gamau rheoli, hyfforddi neu ddisgyblu eu cymryd mewn ymateb i hynny?

Mae'r cyngor yn dweud nad ydyn nhw'n gallu "cadarnhau na gwadu" a oedd ganddyn nhw'r wybodaeth yna.

Ac er bod y cyngor yn cydnabod bod "budd cyhoeddus o ran atebolrwydd", maen nhw'n dweud fod rheolau diogelu data yn eu hatal rhag rhannu manylion.

Gofynnwyd hefyd am gyfweliadau gydag Arweinydd Cyngor Gwynedd a'r Prif Weithredwr.
 
Gwrthododd y cyngor y cais, gan ddweud fod y "cyfeiriad gwleidyddol clir" oedd gweithredu'r rhaglen waith, gwreiddio'r newidiadau a mesur eu heffaith, ac mai'r ffocws erbyn hyn oedd "cyflawni'r gwaith gweithredol".
 
Dywedodd hefyd na fyddai'n bosib i'r Prif Weithredwr nac uwch swyddog roi cyfweliad gan fod "prosesau ar waith ar hyn o bryd sy'n dilyn trefniadau statudol cenedlaethol", ac y gallai trafod materion cyflogaeth yn gyhoeddus "beryglu'r prosesau hynny" ac ymyrryd â "hawliau gweithwyr unigol i gyfrinachedd".
 
Enwi unigolion
 
Doedd yr Adolygiad Ymarfer Plant ddim yn enwi unigolion, ond yn hytrach yn cyfeirio at deitlau swyddi. 
 
Ymhlith y rhain roedd y rôl a ddisgrifiwyd fel "Uwch Reolwr GPaTh ALl1 (LADO)"  (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol) sy'n gyfrifol am reoli pryderon diogelu a honiadau sy'n ymwneud â phobl sy'n gweithio gyda phlant.
 
Yn ôl yr adolygiad, roedd nifer o'r "cyfleoedd a gollwyd" yn gysylltiedig â rôl y LADO.
 
Cadarnhaodd Cyngor Gwynedd nad yw'r swyddog a ddisgrifir yn yr adolygiad fel "Uwch Reolwr GPaTh ALl1 (LADO)" bellach yn cyflawni dyletswyddau LADO, nac unrhyw gyfrifoldebau diogelu tebyg ar ran y cyngor, ond ei fod yn parhau i gael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd.
 

Dywedodd y cyngor fod cyfrifoldeb rôl LADO erbyn hyn "yn gyfrifoldeb i'r Pennaeth Cynorthwyol Diogelu ac Ansawdd." 

Dywedodd hefyd ei fod wedi adolygu "rôl" LADO ac wedi gweithredu pob un o argymhellion yr Adolygiad Ymarfer Plant. 
 
Ychwanegodd y cyngor ei fod wedi "buddsoddi dros £650k i sicrhau bod ein trefniadau i’r safon uchaf posib."
 
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r swyddog ymateb drwy ei gyflogwr, Cyngor Gwynedd.
 
Methiant
 
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud yn flaenorol ei fod wedi penodi ymgynghorwyr allanol i ymdrin ag unrhyw faterion disgyblu a chyflogaeth yn ymwneud ag achos Foden.
 
Roedd yr adolygiad hefyd yn archwilio gweithredoedd tri aelod o uwch dîm rheoli craidd Ysgol Friars, a enwyd yn yr adolygiad fel UDRh Craidd 1, UDD2  ac UDRh Craidd 3.
 
"Dylai methiant bob un o’r tri i roi gwybod am eu pryderon fod wedi arwain at roi ystyriaeth i addasrwydd pob un o’r unigolion hyn i weithio gyda phlant." meddai'r arolwg. 
 
Mae'n mynd ymlaen i ddweud y gallai sefyllfa fod wedi arwain at  "atgyfeiriadau i EWCam dorri safonau proffesiynol a methu â diogelu plant, gyda chamau disgyblu dilynol."
 

Drwy geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, gofynnodd Newyddion S4C pa gamau, os o gwbl, a gymerwyd mewn ymateb i'r canfyddiadau hynny.

Dywedodd Cyngor Gwynedd mai cyrff llywodraethu ysgolion, ac nid y cyngor, sy'n gyfrifol am faterion staffio, ond ychwanegodd ei fod wedi cymryd "pob cam a ddisgwylir gennym fel corff cyhoeddus cyfrifol" gan ychwanegu ei bod hi'n amhriodol rhoi sylwadau ar faterion HR (Adnoddau Dynol) unigolion.

Anfonwyd cwestiynau hefyd at Gyngor y Gweithlu Addysg i ofyn a oedd wedi derbyn unrhyw gyfeiriadau yn deillio o faterion a ystyriwyd yn yr adolygiad, gan gynnwys y rhai yn ymwneud â rhai o uwch arweinwyr Ysgol Friars.

Gwrthododd y rheoleiddiwr ddatgelu'r wybodaeth honno, gan gyfeirio at eithriadau diogelu data o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Fodd bynnag mi wnaethon nhw gadarnhau eu bod wedi ystyried yr adroddiad "yn fanwl", ac yn croesawu'r argymhellion, "yn enwedig y rheiny sy'n galw ar i asiantaethau statudol gydweithio'n agosach i wneud trefniadau diogelu cryf, wedi eu cydlynu. 
 
"Mae'r rhain yn hanfodol i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc."
 
Ychwanegodd: "Byddwn yn parhau i adolygu canfyddiadau'r adroddiad yn ofalus i nodi unrhyw gamau y gallwn eu cymryd i gryfhau ein gwaith rheoleiddiol, a pharhau i adeiladu hyder y cyhoedd yn y proffesiwn. 
 
"Mae hyn yn cynnwys cydweithio gyda'r awdurdodau lleol perthnasol i drafod meysydd sy'n briodol i'n rolau fel y rheoleiddir addysg."
 
Atebolrwydd a chyfraith cyflogaeth
 
Tydi'r  tensiwn rhwng atebolrwydd cyhoeddus a chyfraith cyflogaeth ddim yn unigryw i achos Foden.
 
Mi ddywedodd Owen John, cyfreithiwr yng Nghaerdydd sy'n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth, y gall cyrff cyhoeddus wynebu rheolau cyfreithiol sy'n cystadlu â'i gilydd wrth ymateb i gwestiynau am atebolrwydd staff.
Image
Owen John - Darwin Gray

"Mae’n llinell anodd iawn iawn i’w throedio. Lle o ran y gyfraith, a chyfraith cyflogaeth, dydy cyfraith cyflogaeth ddim mewn gwirionedd yn cydnabod y darlun ehangach.

"Mae cyfraith cyflogaeth yn dynn iawn yn ystyried y berthynas yna rhwng y cyflogwr a’r cyflogai, ond mae ‘na elfen o gyfraith gyhoeddus fan hyn yn does sydd mewn ffordd yn gwrthdaro yn erbyn hynny ble mae cyrff cyhoeddus yn amlwg yn atebol i’r cyhoedd - felly mae yna elfen o fod yn agored a bod yn dryloyw sydd yn ddisgwyliedig o gyrff cyhoeddus.

"Mewn ffordd mae cyfraith gyhoeddus a chyfraith cyflogaeth yn gwrthdaro fan hyn"

Pryder dioddefwr 

Mae cyn-ddisgybl i Foden, sy'n dweud iddi gael ei cham-drin ganddo mewn ysgol ac sydd wedi ymddangos yn ddienw ar raglenni'r BBC yn y gorffennol, yn dweud nad yw'n teimlo bod pethau wedi newid i ddioddefwyr ers cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant flwyddyn yn ôl.
 
Er mwyn ei diogelu, rydym yn ei galw'n Nia. Nid dyma ei henw go iawn.
 
""Dydi Cyngor Gwynedd ddim bob amsar 'di bod yn agored yn fy marn i" meddai Nia.
 
"O'r diwrnod cynta', maen nhw wedi bod yn osgoi ateb cwestiynau. Maen nhw'n gwrthod ateb cwestiynau ac yn cuddio y tu ôl i gyfraith cyflogaeth a phrosesau.
 
"Dydio ddim yn teimlo fel atebolrwydd. Mae o'n teimlo fel bo nhw'n amddiffyn y sefydliad, ddim y plant oedd i fod i gael eu hamddiffyn."
 
Dywedodd Nia, a gyfrannodd at yr Adolygiad Ymarfer Plant, ei bod eisiau codi ei llais "achos dio'm jyst am gael pethau ar bapur. Mae o am - ydy'r dioddefwyr yn teimlo'n fwy saff?  Ydyn nhw teimlo bo nhw 'di cael i clywad, eu coelio - flwyddyn wedyn? 

"Ar hyn o bryd, 'da ni ddim."
 
Ymateb y cyngor
 
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydym bellach wedi cyflawni y cyfan bron o'r argymhellion oedd yn yr adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol ac mae wedi hynny arwain at weddnewid ein holl drefniadau yn y maes diogelu plant mewn addysg. 
 
"Byddem yn falch o gael unrhyw gyfle i dreulio amser yn rhannu gwybodaeth gydag unrhyw un sydd yn dymuno gwybod mwy am yr holl newid yma, yn arbennig unrhyw un sydd â phrofiadau personol y gallwn ddysgu ohonynt. 
 
"Mae llais dioddefwyr yn hollbwysig yn yr Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder ac rydym yn falch fod llais y plentyn yn cael sylw drwy holl drefniadau Cyngor Gwynedd erbyn hyn.
 
“Mae’r Cyngor eisoes wedi cadarnhau ein bod yn cymryd pob cam sy’n ddisgwyliedig ohonom fel corff cyhoeddus cyfrifol. 
 
"Rydym yn deall fod rhai aelodau o’r cyhoedd yn rhwystredig na allwn wneud sylw am faterion adnoddau dynol, ond fel pob cyflogwr teg a chyfrifol arall ar draws y wlad rydym yn dilyn rheolau cyflogaeth cenedlaethol arferol mewn materion fel hyn.”
 

Yn ogystal ag awdurdodau lleol y gogledd, mae'r Heddlu wedi cyflwyno mesurau diogelu newydd hefyd - fel hyfforddiant ychwanegol, cryfhau cydweithio rhwng asiantaethau a phenodi swyddog ieuenctid.

Er nad oedd 'na argymhellion penodol i Heddlu'r Gogledd yn yr Adolygiad Ymarfer Plant, mae yna lawer o gyfeiriadau at drefniadau llywodraethu Ysgol Friars - gan nodi fod cadeirydd ac is-gadeirydd y bwrdd yn swyddogion gyda Heddlu'r Gogledd.

Essi Ahari oedd y cadeirydd pan oedd pryderon yn cael eu codi am Foden.

Mae'r adolygiad yn dweud ei fod o'n dibynnu'n drwm ar wybodaeth a chyfarwyddiadau gan Foden ac uwch dîm rheoli'r ysgol. 

Image
Essi Ahari
Essi Ahari
 
Roedd enghreifftiau o Foden yn "drafftio llythyrau i Gadeirydd y Llywodraethwyr i'w hanfon yn ei enw ei hun" (tudalen 71)
 
Ac roedd y cyn bennaeth, yn ôl yr adolygiad yn "manteisio’n gyhoeddus" o gael "dau Swyddog Heddlu'r Gogledd fel Llywodraethwyr" i "gymeradwyo ei benderfyniadau."
 
Erbyn hyn, mae Essi Ahari wedi ymddeol. 

Ond, yn dilyn yr adolygiad ymarfer plant, mae wedi cael ei asesu o dan brosesau camymddwyn yr heddlu.
 
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, fe wnaeth yr "Adran Safonau Proffesiynol" ystyried yr adroddiad "yn ei gyfanrwydd", ond "nad oedd yr achos yn cyrraedd y trothwy ar gyfer camymddwyn difrifol." 
 
Maen nhw'n dweud hefyd fod "hyfforddiant newydd" wedi'i gyflwyno i "swyddogion yr heddlu sy'n llywodraethwyr ysgol" a hynny "o ganlyniad i'r adolygiad" 
 
Tydi Newyddion S4C ddim wedi gallu cysylltu ag Essi Ahari yn uniongyrchol, ond mae heddlu'r gogledd wedi trosglwyddo ein manylion pe bai'n penderfynu ei fod o eisiau gwneud ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.