Dyn 19 oed yn euog o lofruddio bachgen 17 oed yng Nghaerffili
Mae dyn 19 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio bachgen 17 oed yn Abertridwr, Sir Caerffili.
Fe gafodd Georgie Mears o Gaerdydd ei ddyfarnu'n euog o lofruddio Tristan Kerr, 17 oed, gan reithgor yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mercher.
Cafodd Conor Palfrey, 25 oed, o Abertridwr, ei ddyfarnu'n ddieuog o lofruddiaeth ar sail cydgyfrifoldeb, ond yn euog o ddynladdiad.
Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar 18 Tachwedd.
Cafodd Ricardo Elliot, 27 oed, sydd heb gyfeiriad parhaol, ac Elexi Manny, 25 oed, o Senghennydd, eu dyfarnu'n ddieuog o lofruddiaeth ar sail cydgyfrifoldeb a dynladdiad.
Roedd y pedwar wedi gwadu llofruddio Tristan Kerr.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Abertridwr, Sir Caerffili, am tua 17:45 ar 5 Chwefror eleni yn dilyn adroddiadau fod bachgen wedi cael anaf difrifol.
Roedd Tristan Kerr wedi marw yn y fan a'r lle.
Mewn teyrnged iddo ym mis Chwefror, cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel bachgen oedd "yn gryf, yn ddewr ac yn llawn cynhesrwydd".
Dywedodd y teulu fod ganddo angerdd tuag at feiciau modur ac antur, a'i fod yn adnabyddus am ei hiwmor, ei deyrngarwch a'i garedigrwydd.
"I'w frodyr a'i chwiorydd, roedd yn fwy na theulu — ef oedd eu ffrind gorau, eu harwr a'u gwarchodwr," meddai'r teulu.
"Gorffwys mewn hedd ein mab annwyl, 17 oed am byth,"
