Dileu enw gweithiwr gofal o Bwllheli o’r gofrestr ar ôl tynnu £5,000 o gyfrif banc dyn oedrannus

Arian

Mae enw gweithiwr gofal o Wynedd a fu bron â gwagio cyfrif banc ffrind teulu oedrannus wedi cael ei ddileu o’r gofrestr broffesiynol.

Ym mis Ebrill, fe wnaeth Lowri Wyn Williams, 61 oed, o Bwllheli, ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o dwyll drwy gamliwio.

Clywodd y llys ei bod wedi tynnu bron i £5,000 o gyfrif banc Gwyn Owen, 89 oed. 

Roedd Mr Owen, a oedd yn gwybod ei bod yn cael trafferthion ariannol, wedi rhoi rhywfaint o arian iddi yn y gorffennol.

Roedd gan Williams fynediad at gyfrif banc Mr Owen er mwyn prynu bwyd ac eitemau hanfodol eraill iddo. 

Ond pan aeth Mr Owen i’r banc i nôl arian, cafodd sioc o glywed nad oedd digon o arian yn ei gyfrif.

Cafodd Williams ddedfryd o 34 wythnos o garchar, wedi’i gohirio am 18 mis.

Disgrifiodd y Barnwr Simon Mills y drosedd fel "torri ymddiriedaeth mewn ffordd ddifrifol".

Mae panel Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru bellach wedi dileu Williams, a oedd wedi gweithio fel gweithiwr gofal mewn cartref gofal i oedolion, o’r gofrestr broffesiynol. 

Mae hynny’n golygu na chaiff weithio eto mewn unrhyw swydd gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedodd y panel fod y camau hynny’n angenrheidiol, gan fod ei haddasrwydd i ymarfer yn parhau i fod o dan amheuaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.