Arestio milwr Americanaidd ar amheuaeth o ysbïo i Rwsia
Mae milwr ym myddin yr Unol Daleithiau wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ysbïo i Rwsia, yn ôl heddlu gwrthderfysgaeth Prydain.
Cafodd y dyn 41 oed ei arestio ger Caerloyw ddydd Mawrth.
Yn ôl yr heddlu, cafodd y dyn, sy'n uwch-aelod o'r lluoedd arfog, ei arestio o dan adrannau 1 a 3 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae adran 1 o'r Ddeddf yn ymwneud â chael gafael ar wybodaeth neu ddatgelu gwybodaeth sydd wedi ei warchod, tra bod adran 3 yn ymwneud â chynorthwyo gwasanaeth cudd-wybodaeth tramor.
Mae swyddogion yn cynnal ymchwiliadau mewn dau leoliad yn Swydd Gaerloyw.
Mae'r heddlu gwrthderfysgaeth wedi dweud nad yw'r ymchwiliad hwn yn gysylltiedig ag unrhyw ymchwiliadau eraill.
Yn ôl y BBC, mae'n deall bod y milwr wedi'i leoli ym Marics Imjin yn Innsworth, sy'n ganolfan bwysig i NATO.
Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr yr FBI, Kash Patel, fod yr arestiad yn un "pwysig" a bod yr honiadau o ysbïo yn "destun pryder difrifol iawn i’r Unol Daleithiau a’n cynghreiriaid".
Disgrifiodd y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Vicki Evans, o Uned Plismona Gwrthderfysgaeth Llundain, yr arestiad fel un "arwyddocaol".
"Mae'r honiadau'n ddifrifol ac mae ein hymchwiliad yn parhau," meddai.
Mae'r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yn Llundain.
Llun: Barics Imjin yn Innsworth (Google Maps)
