Dyn 46 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Nhorfaen

Rockhill Road

Mae dyn 46 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Pont-y-pŵl yn Nhorfaen.

Cafodd swyddogion Heddlu Gwent eu galw i Ffordd Rockhill yn ardal Pont-y-moel am tua 11.30 ddydd Mawrth yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad yn ymwneud ag un cerbyd yno.

Cafodd parafeddygon hefyd eu galw i'r safle, ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd yn dilyn y digwyddiad.

Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio neu'n cerdded yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad, i rannu unrhyw wybodaeth neu luniau o gamerâu dashfwrdd gyda nhw.

Mae modd rhannu unrhyw wybodaeth ar wefan Heddlu Gwent neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600367435.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.