Môn: Carcharu dyn am anafu beiciwr a gyrru tacsi i'r cyfeiriad anghywir ar yr A55
Mae dyn 31 oed a yrrodd dacsi yr oedd wedi’i ddwyn i'r cyfeiriad anghywir yr A55 ar Ynys Môn wedi cael ei garcharu am dair blynedd.
Fe gyfaddefodd Darragh O’Grady o Iwerddon iddo achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, methu â darparu sampl i’w ddadansoddi, gyrru cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti a gyrru mewn ffordd nad oedd yn unol â’i drwydded.
Plediodd yn euog hefyd i gymryd bws mini yng Nghaergybi, dwyn ffôn symudol a chardiau banc menyw ar fferi o Ddulyn i Gaergybi, a thwyll drwy ddefnyddio cardiau banc.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.
Ym mis Awst, fe glywodd Llys Ynadon Caernarfon fod O'Grady wedi teithio ar ochr anghywir ffordd ddeuol yr A55, ar ôl taro beiciwr ar gyflymder o 80mya mewn bws mini Renault Traffic, oedd wedi’i ddwyn.
Wrth ei ddedfrydu ddydd Mawrth, dywedodd y Barnwr Timothy Petts: “Roedd y cyfan yn eithriadol o beryglus.
"Roedd hi’n hynod o lwcus na wnaethoch chi ladd eich hun, neu’n waeth, person arall."
Roedd O’Grady wedi achosi anafiadau difrifol i Richard Owen Roberts drwy yrru’r bws mini’n beryglus ar ffordd rhwng Penrhos a’r Fali ar 24 Awst.
Roedd hefyd wedi achosi difrod i sawl car.
Dywedodd y barnwr fod yna gyfnod hir o O’Grady yn gyrru’n “hollol wirion.”
Cafodd O’Grady hefyd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd a hanner.
Taro beiciwr
Dywedodd Oliver King ar ran yr erlyniad fod Mr Roberts wedi cael ei daro o'r tu ôl gan ddrych ar ochr teithiwr y cerbyd, a'i fod yn anymwybodol am gyfnod byr.
Roedd Mr Roberts wedi’i adael yn gorwedd ar y ffordd gyda dwy asen wedi eu torri, ac fe ddioddefodd anaf i'w iau ac anafiadau eraill.
Dywedodd llygad-dyst ei fod yn credu bod y cerbyd yn teithio tua 80mya pan ddigwyddiad y gwrthdrawiad.
Dywedodd ail feiciwr bod y tacsi wedi gyrru heibio iddo o drwch blewyn ar gyflymder uchel.
Ar ffordd ddeuol yr A55, roedd y tacsi wedi bod yn gwyro o ochr i ochr, ac fe wnaeth O'Grady godi ei fawd ar un adeg.
Fe wnaeth yr heddlu ei stopio drwy ddefnyddio dyfais Stinger i dynnu’r gwynt allan o deiars y cerbyd.
Dywedodd bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, Richard Edwards, fod O'Grady, sy'n gweithio yn y diwydiant lletygarwch ac sydd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia, yn edifar am ei weithredoedd.
Roedd y gwrandawiad dedfrydu wedi cael ei ohirio ym mis Awst er mwyn i adroddiad seiciatrig ar O'Grady gael ei gwblhau.
Dywedodd y Barnwr Petts fod O'Grady wedi dwyn y bws mini ar ôl cyrraedd Caergybi ar y fferi.
Roedd Mr Roberts wedi cael ei gludo i'r uned trawma yn Ysbyty Stoke-on-Trent ar ôl dioddef anafiadau difrifol.
Dywedodd y barnwr fod O'Grady wedi ymddwyn yn “hollol wirion” drwy yrru i'r cyfeiriad anghywir ar yr A55, a'i fod o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ar y pryd.
“Mae'n anodd iawn deall pam y gwnaethoch chi unrhyw un o'r pethau hyn,” meddai’r barnwr wrtho.