Crwner yn rhybuddio am farwolaethau pellach ar ôl i ddwy fenyw aros oriau am ambiwlans
Mae crwner wedi rhybuddio y gallai rhagor o bobl farw oherwydd oedi gydag ambiwlansys, ar ôl i ddwy fenyw yng ngogledd Cymru aros rhwng 17 a 24 awr am gymorth yn dilyn galwadau 999.
Bu farw Janet Mary Nixon, 67 oed, a Dorothy Esther Evans, 88 oed, ar ôl dioddef anafiadau mewn dau gwymp ar wahân.
Mae uwch-grwner gogledd Cymru, John Gittins, bellach wedi anfon dau adroddiad at Wasanaeth Ambiwlans Cymru, gan rybuddio bod "perygl y gallai rhagor o farwolaethau ddigwydd oni bai bod camau'n cael eu cymryd."
Cafodd y ddwy farwolaeth eu cofnodi fel damweiniau yn dilyn cwestau.
Aros dros 17 awr
Cafodd galwad 999 ei gwneud tua hanner dydd ar 21 Hydref 2025 ar ôl i Janet Mary Nixon gwympo yn ei chartref ym Mhensarn ger Abergele.
Fe gafodd y sawl oedd wedi ffonio wybod nad oedd ambiwlans ar gael, ac y byddai'n cymryd tua thair awr i gymorth gyrraedd.
Cafodd galwadau pellach eu gwneud tua 21:00 y noson honno ac am 04:00 y bore canlynol, ond nid oedd ambiwlans ar gael.
Fe gyrhaeddodd cymorth am 05:15 ar 22 Hydref, dros 17 awr ar ôl yr alwad gyntaf.
Bu farw Mrs Nixon ar 30 Hydref o ganlyniad i'w hanafiadau.
Daeth cwest ym mis Gorffennaf 2026 i'r casgliad mai damwain oedd ei marwolaeth.
Mewn digwyddiad ar wahân, fe gwympodd Dorothy Esther Evans, 88 oed, mewn cartref gofal preswyl ar Nos Galan 2025.
Er bod gofalwyr wedi dod o hyd iddi wedi'i hanafu, fe arhosodd ar y llawr tan y bore canlynol.
Yn ôl adroddiad y crwner, cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 09:00 ar 3 Ionawr, ond ni chyrhaeddodd ambiwlans tan tua'r un amser y diwrnod canlynol.
Bu farw Mrs Evans yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, Sir Ddinbych, ar 9 Ionawr.
Roedd achosion ei marwolaeth yn cynnwys ceulad gwaed mewn rhydweli yn yr ysgyfaint, asgwrn wedi torri yn rhan uchaf ei choes, eiddilwch a dementia.
Daeth cwest i'r casgliad mai damwain oedd ei marwolaeth hithau hefyd.
'Bywydau'n parhau i gael eu colli'
Cafodd y ddau adroddiad eu hanfon at brif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Fe gafodd yr adroddiad yn ymwneud â Mrs Nixon ei anfon hefyd at Weinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Yn y ddau adroddiad, roedd Mr Gittins yn cydnabod bod sawl rheswm dros yr oedi wrth i ambiwlansys ymateb i alwadau.
Yn achos Mrs Nixon, dywedodd fod cynrychiolwyr y gwasanaeth ambiwlans wedi nodi bod oedi wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai yn un o'r prif broblemau.
Roedd wedi cael gwybod bod gwaith ar y gweill i sicrhau na fyddai'r broses o drosglwyddo cleifion o ambiwlansys i ysbytai yn cymryd mwy na 45 munud.
Ond dywedodd nad oedd modd rhoi amserlen ddibynadwy ar gyfer cyflawni hynny.
"Rwy'n parhau i bryderu ei bod yn debygol y bydd bywydau'n parhau i gael eu colli nes bod y gwelliannau hyn yn dod i rym," meddai.
Yn achos Mrs Evans, dywedodd y crwner ei fod wedi cael awgrym nad oedd rhagor y gallai'r gwasanaeth ambiwlans ei wneud, ac mai sefydliadau eraill yn unig allai sicrhau newid.
Ond dywedodd nad oedd tystiolaeth wedi cael ei chyflwyno i egluro pa sefydliadau oedd dan sylw.
Ymateb y gwasanaeth ambiwlans
Dywedodd Penny Durrant, cyfarwyddwr nyrsio dros dro Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ei bod yn cydymdeimlo'n ddwys â theuluoedd y ddwy fenyw.
"Rydym yn cydnabod y trallod y mae'r amgylchiadau hyn wedi'i achosi, a difrifoldeb y pryderon sydd wedi'u codi gan y crwner," meddai.
"Rydym yn cydnabod na ddylai cleifion orfod aros am gyfnodau hir am ambiwlans, a bod mwy i'w wneud gennym ni a'r GIG ehangach yng Nghymru i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal cyn gynted â phosibl."
Dywedodd fod y gwasanaeth wedi parhau i wella'r ffordd y mae'n asesu ac yn cefnogi cleifion sydd wedi cwympo, gan gynnwys drwy dîm arbenigol sy'n cynnig cymorth clinigol i bobl sy'n aros am ambiwlans.
Ychwanegodd fod gwaith yn parhau gyda byrddau iechyd i leihau'r oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ysbytai, a sicrhau bod mwy o ambiwlansys ar gael i ymateb i alwadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn rhannu pryderon difrifol y crwner.
"Mae'n annerbyniol bod cleifion yn wynebu risg y gellid ei hosgoi wrth aros am ambiwlans brys," meddai.
"Mae oedi gydag ambiwlansys yn broblem sy'n ymwneud â'r system gyfan."
Ychwanegodd y llywodraeth ei bod yn disgwyl i'r gwasanaeth ambiwlans a byrddau iechyd wneud popeth o fewn eu gallu i wella argaeledd ambiwlansys a sicrhau bod cleifion yn cael eu trosglwyddo i ysbytai o fewn 45 munud.
Er bod rhywfaint o welliant wedi bod yn ddiweddar, dywedodd fod yr oedi yng ngogledd Cymru yn parhau ymhell o'r safon y dylai'r cyhoedd ei disgwyl.
Ychwanegodd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau o dan y lefel uchaf o ymyrraeth, gyda chymorth penodol i wella llif cleifion a lleihau'r oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys.