Sir Benfro: Arestio person 16 oed ar ôl gwrthdrawiad rhwng cerddwr ac e-feic
Mae person 16 oed wedi ei arestio ar ôl i gerddwr gael anafiadau all beryglu bywyd yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud ag e-feic yn Sir Benfro.
Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Bush Hill, ym Mhenfro, tua 14.00 ddydd Llun yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans a’r ambiwlans awyr hefyd eu galw i’r lleoliad, wrth i’r ffordd gael ei chau.
Cafodd y cerddwr ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr yng nghwmni ei deulu, gydag anafiadau all beryglu bywyd.
Mae plentyn 16 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus ac wedi’i gadw yn y ddalfa.
Mae’r ffordd yn parhau ar gau ac mae’r heddlu'n cynghori pobl i osgoi’r ardal.
