Mariah Carey i ganu yng Nghaerdydd yr haf nesaf

Mariah Carey

Bydd y gantores fyd-enwog Mariah Carey yn dod â’i thaith Ewropeaidd i Gaerdydd yr haf nesaf.

Dyma fydd un o bedwar perfformiad y gantores ym Mhrydain fel rhan o'r daith.

Carey yw un o'r artistiaid benywaidd mwyaf llwyddianus erioed.

Bydd y gantores sydd wedi ennill gwobr GRAMMY bum gwaith, yn ymddangos yng Nghastell Caerdydd ar ddydd Mawrth, 29 Mehefin. 

Mae hyn yn rhan o’i thaith ‘Firefly Summer Festivals’, gan roi cyfle i gefnogwyr ledled Ewrop glywed un o leisiau mwyaf eiconig y byd cerddoriaeth yn fyw. 

Bydd y grŵp R&B o Brydain, Eternal, yn perfformio fel gwesteion arbennig ar y noson.

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.