'Gwthio i'r eithaf': Owain Wyn Evans yn dechrau ei her seiclo Plant Mewn Angen
Mae'r cyflwynydd radio a theledu Owain Wyn Evans yn dechrau her seiclo ar draws Prydain ddydd LLun, er mwyn codi arian ar gyfer Plant Mewn Angen.
Bydd y Cymro yn ceisio cwblhau'r her mewn pum diwrnod.
Glasgow yw man cychwyn y daith, ac yna bydd yn teithio drwy Ogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru, cyn gorffen yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener, 13 Tachwedd.
Wrth siarad cyn dechrau'r her, dywedodd Owain: "Pan nes i ddweud ie i wneud yr her yma, o'n i'n gwybod y byddai'n fy ngwthio i'r eithaf.
"Mae'n mynd i fod yn galed, yn heriol ac mae'n siŵr y bydd braidd yn frawychus ar adegau, ond dwi'n barod i roi popeth sydd gen i i'r her."
Mae wedi dweud mewn cyfweliad â'r BBC nad yw'n seiclwr cyson a'i fod wedi cael perthynas anodd gydag ymarfer corff yn y gorffennol am iddo gael ei fwlio yn yr ysgol.
Dyma'r ail dro i'r cyflwynydd Radio 2 ymgymryd â her ar gyfer yr elusen Plant Mewn Angen.
Yn 2021, fe lwyddodd i chwarae'r drymiau am 24 awr, gan godi £3.8 miliwn i'r elusen.
Ychwanegodd y bydd yr arian sy'n cael ei godi yn gwneud "gwahaniaeth go iawn i blant a phobl ifanc ar draws Prydain".
Bydd camerâu yn dilyn Owain ar hyd y daith er mwyn dogfennu ei brofiad ar gyfer rhaglen deledu ar y BBC.
Mae'n dilyn yn ôl troed rhai o gyflwynwyr eraill Radio 2 sydd wedi gwneud heriau mawr, gan gynnwys Sara Cox, a redodd o Northumberland i Leeds y llynedd.
Llun: BBC
