'Ei wên yn goleuo'r lle': Teyrngedau i feiciwr modur a fu farw ar y Gogarth
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i feiciwr modur a fuodd farw ar ôl disgyn o benrhyn y Gogarth yn Llandudno.
Y dyn a fuodd farw oedd Filip Szwarnog-Stepien, a bydd digwyddiad yn cael ei gynnal er cof amdano ym mhwll nofio Llandudno fore dydd Llun.
Cafodd yr heddlu eu galw am 22:31 nos Iau, 29 Hydref, yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur du ar Ffordd Forol y dref, tua milltir o'r Tŷ Tollau i gyfeiriad copa'r Gogarth.
O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, fe syrthiodd y beiciwr modur i'r môr islaw'r Gogarth.
Cafodd y dyn ei dynnu o'r dŵr a'i gludo mewn hofrennydd Gwylwyr y Glannau i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd clwb nofio Nofio Conwy fod Mr Szwarnog-Stepien wedi bod yn aelod o'r clwb am flynyddoedd lawer.
"Er iddo adael y clwb wrth iddo dyfu’n hŷn a dechrau pennod newydd yn ei fywyd, ni chafodd ei anghofio erioed gan y rhai oedd yn ei adnabod.
"Roedd yn nofiwr gwych, ond yn bwysicach fyth, roedd yn ddyn ifanc hynod garedig – yn gwrtais, yn garedig, yn barchus, ac yn rhywun yr oedd pawb o’i gwmpas yn ei hoffi.
"Bydd Filip bob amser yn cael ei gofio fel rhan o deulu Nofio Conwy. Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu, ei ffrindiau a phawb oedd yn ei adnabod ac a’i carai, yn ystod y cyfnod anodd anhygoel hwn. Mae Nofio Conwy yn dy gofio, Filip."
Digwyddiad er cof amdano
Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal am 09:00 fore dydd Llun ym mhwll nofio Llandudno er cof am Mr Szwarnog-Stepien.
Dywedodd Nofio Conwy y byddai'r digwyddiad yn cael ei gynnal cyn dechrau Pencampwriaethau Rhanbarthol Nofio Cymru yn y pwll.
"Hoffem estyn gwahoddiad i unrhyw nofwyr – o’r gorffennol neu’r presennol – hyfforddwyr, teuluoedd, ffrindiau, neu unrhyw un a oedd yn adnabod Filip ac a hoffai fod yn bresennol. Mae croeso mawr i chi ymuno â ni wrth i ni dreulio eiliad gyda’n gilydd i’w gofio a dathlu ei fywyd."
Cafodd teyrnged ei rhoi hefyd i Filip Szwarnog-Stepien ar y cyfryngau cymdeithasol gan gampfa yn Llandudno.
Dywedodd Ignite Gym yn ei neges: "Gyda thristwch mawr rydym yn cofio un o’n haelodau hirsefydlog, Filip Szwarnog-Stepien.
"Roedd Filip yn wyneb cyfarwydd yn ein campfa; roedd wrth ei fodd yn ymarfer ac yn bresennol bron bob dydd. Roedd ei wên heintus bob amser yn goleuo’r lle.
"Roedd yn fwy nag aelod yn unig; roedd yn rhan o deulu ein campfa, a bydd colled fawr ar ei ôl ymhlith ein staff a’n haelodau fel ei gilydd.
"Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau Filip, a phawb oedd yn ei adnabod a'i garu, yn ystod y cyfnod anodd dros ben hwn."
Cafodd tri dyn rhwng 17 a 18 oed eu harestio a’u holi mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad ar y Gogarth.
Maen nhw wedi cael eu rhyddhau tra bod ymholiadau’n parhau.
